Twix, Crisps a Bechdan Tywod
Mai 2004
Kenavo - Twix, Crisps a Bechdan Tywod
Wedi benthyg eu henw o'r gair Llydaweg am "Hwyl Fawr", mae'n bleser gan C2 ddweud "Helo Mawr" i'r grwp newydd Kenavo o Aberystwyth. Dau frawd - Cynan a Rhys Llwyd, un ystafell wely, un cyfrifiadur a llwythi o syniadau gwreiddiol, a dyma'r cynhwysion perffaith ar gyfer eu EP cyntaf, Twix, Crisps a Bechdan Tywod.
Mae'n anodd disgrifio arddull Kenavo - mae 'na ychydig o hip hop yna, ychydig o roc, ychydig o angst a eitha lot o hiwmor, ond os ydach chi'n hoffi bandiau fel MC Mabon a'r Tystion yna mae'n siwr wnewch chi hoffi rhain. 5 trac sydd ar yr EP newydd ac i gael copi bydd angen i chi fynd i wefan y grwp: kenavo.2ya.com
Ond cyn hynny, i rhoi syniad gwell i chi am Twix, Crisps a Bechdan Tywod daeth Angharad Griffiths, sy'n ysgrifennu ac yn adolygu i Big Issue Cymru, a Huw Evans o'r band Mwsog a chyflwynydd Bandit ar S4C, i stiwdios C2 at Huw Stephens i'w hadolygu ar Fai y 5ed.
Gwrandewch ar adolygiad o Kenavo
Cliciwch yma i glywed mwy o adolygiadau.