Traciau Huw S

Huw Stephens

Mawrth 16-17, 2004

Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

Eisiau mwy o fanylion am un o'r traciau gafodd eu chwarae gan Huw Stephens ar C2 wythnos yma? Darllenwch ymlaen.....

Alun Tan Lan - Grimaldi
Trac o demo newydd, cyn-ganwr y band Serein. Mae'n stwff hynod o dda, gan y Mim Twm Llai newydd! Mae'r ddau wedi bod yn gigio efo'i gilydd yn ddiweddar, a ni'n edrych mlaen i glywed mwy o'i gerddoriaeth.

Anhysbys - Breuddwyd
Trac newydd gan y band ifanc a thalentog, oddi ar y mini-albym newydd 'Twyni Tywod', sydd allan ar ddydd Llun, 22 Mawrth ar y label hynod o brysur, Gwynfryn Cymunedol.

Ashokan - Y Llyn
Heb os, y trac gore oddi ar 'Diolch am Ddal y Gannwyll', sydd allan nawr ar label Dockrad. Nes i weld Marc o Ashokan yn gyrru lawr yr M4 dros y penwythnos yn ei gar bach coch.

Gogz - Ffordd Hir Nol
Fy hoff drac o'r sesiwn naethon nhw recordio i Lisa Gwilym ar C2. Cliciwch yma i glywed y sesiwn yn llawn.

The Killers - Somebody Told Me
Y gân gitar fyd-eang ore sydd allan ar y foment, mae'r band yma yn dod o Las Vegas. Nes i ffeindio hyn yn rhyfedd pan ddarllenais i amdanyn nhw gyntaf, achos o'n i wedi anghofio bod 'na bobl sy'n dod o Las Vegas, a ddim dim ond yn mynd yno i gamblo. Fel allwch chi ddychmygu, do'n i ddim yn wych mewn daearyddiaeth yn ysgol.

Mogwai a Gruff Rhys - Dial:Revenge
Allwch chi ffeindio hon ar albym Mogwai, 'Rock Action'. Band sy' 'di cael ei disgrifio fel 'post-rock' ydi Mogwai, sydd wedi gwneud enw iddyn nhw eu hunain drwy chware cerddoriaeth trwm, offerynnol, gyda'r caneuon fel arfer yn dros bum munud o hyd, ond yn creu naws a swn emosiynol, arbennig. Mae nhw a'r Furries yn ffrindiau hefyd, a nath Gruff berfformio'r gân yma gyda nhw unwaith yng Ngwlad yr Iâ.

Phoenix - Run Run Run
Hwre i Phoenix, band gwych o Baris, oedd arfer bod yn yr un band ag aelodau y grwp dawns Air. Mae nhw nôl gyda albym newydd, 'Alphabetical', a dyma'r sengl gyntaf, hyfryd, oddi arni.

Skep - 'Diaspora' ac 'I'r Lan'
Dwy gân gan Skep i ddathlu fod ei albym newydd, 'CTRL-S', allan wythnos yma a mor dda. Cliciwch yma i glywed adolygiad Gareth Potter ac Iwan England o'r albym. Mae 'CTRL-S' allan nawr ar label Dockrad.

Texas Radio Band - Fideo Hud
Gafodd y gân yma ei eni fel rhan o sesiwn C2, ond dyma'r fersiwn newydd, gwych, oddi ar yr albym 'Baccta Crackin', sydd allan ar label newydd Recordiau Slacyr wythnos yma. Mae'n wych. Es i i weld nhw yn noson Tacsi yn Neuadd Hendre wythnos dwetha hefyd a roedd y TRB yn dda iawn. Neis gweld fod pum mlynedd o chware a gigio wedi troi allan efo albym mor sgleiniog, ddoniol, emosiynol, arbennig a Baccta Crackin'.


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.