Ar ôl bod yn cuddio mewn stiwdios tywyll am dros ddwy flynedd, o'r diwedd mae'r Gogz yn barod i goncro'r byd gydag EP ac albym newydd sbon. Ac i ddechrau ar yr ymgyrch, daeth y Gogz i stiwdios C2 ym Mangor i recordio sesiwn acwstic byw ar nos Lun, Mawrth 8, yng nghwmni Lisa Gwilym.
Dyma'r stwff newydd cyntaf i gael ei glywed gan y Gogz ers 2001 pan ddaeth eu EP Muhammed Ali allan ac ar raglen C2 nos Lun bu'r grwp yn perfformio caneuon newydd sbon o'u EP nesaf.
Mae nhw newydd orffen recordio albym Saesneg o'r enw Long Way Home, gafodd ei recordio mewn stiwdios yn Bethesda a'r Iwerddon ac yn dod allan yn hwyrach yn y gwanwyn. Bydd y Gogz yn rhyddhau EP Gymraeg ar label Crai/Sain yn fuan wedyn.
Mae nhw ar hyn o bryd ar daith yng Nghymru a Llundain - cliciwch yma i weld rhestr llawn o'u 'gigz', a cliciwch ar y caneuon ar dop y dudalen i glywed y sesiwn. Mae werth ei chlywed!
Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.
Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?