Traciau Huw S

Huw Stephens

Mawrth 9-10, 2004

Mae Huw Stephens ar C2, Radio Cymru bob nos Fawrth a nos Fercher am 10pm

Eisiau mwy o fanylion am un o'r traciau gafodd eu chwarae gan Huw Stephens ar C2 wythnos yma? Darllenwch ymlaen.....

Mwsog - Chwantesblyg
Trac rhif 8 o'u demo newydd, sydd yn gam ymlaen o'r sesiwn cynta glywson ni rhyw ddwy flynedd yn ôl. Mae fel Mogwai, DJ Shadow a Zabrinski yn yr un bath.

Datblygu - Dafydd Iwan yn y Glaw
Trac gan y band arloesol a gwych yma o'r albym Pyst. Fydd Wyau, Pyst a Libertino yn dod allan eto fel un casgliad ar label ankstmusik yn ystod y misoedd nesaf.

Dilated Peoples feat. Kanye West - This Way
Y sengl gyntaf o albym gwych D.P, Neighbourhood Watch, sydd allan ar Ebrill 5ed. Hip Hop Americanaidd ffynci, egniol, cyflym, clefar, a gyda chydwybod.

Frizbee - Hir Nos, Adenydd Chwim, Eddie, Un ar ôl Un, Blew
Pump cân o'u set byw yn Ty Tawe, Abertawe ar nos Wener, Mawrth 5ed. Band hynod o addawol o Flaenau Ffestiniog.

Bootnic - Byw Heb Sky TV
Y band gyda'r synnwyr ffasiwn mwya' doniol yng Nghymru, a caneuon pop-punky gwych i fynd gyda nhw. Y gân yma ar yr EP Cau dy Geg daeth allan ar label Gwynfryn Cymunedol llynedd.

Benedict - Herian
Cân wych gan fand sydd bellach yn mynd o dan yr enw Tricky Nixon, oedd ar i-dot ar S4C yn ddiweddar.

The Crimea - Bombay Saphire Coma
O'u halbym cyntaf fydd allan ym mis Mehefin, Tragedy Rocks, a band ni wedi chware nifer o weithie ar C2. Es i weld nhw nos Lun 08.04 yn Clwb Ifor Bach, Caerdydd a roedden nhw'n wych, fel arfer. Fyddai'n chware mwy oddi ar yr albym dros y misoedd nesaf.

Llwybr Llaethog gyda MC Sleifar a MC Chef - Gweld Ti yn Cwrt
Trac o'r gig yn Ty Tawe, Abertawe 05.04 - nes i wir fwynhau set Ll-Ll, a gyda Delyth Eirwyn roedd 'ne amrywiaeth neis i'r caneuon. Cravos (Sleifar) ydi rapiwr gorau Cymru erioed, ac roedd ei drac e a Chef yn wych yn fyw.

Snow Patrol - Chocolate
Roedd Run yn enfawr ac yn sengl anhygoel o dda, a dyma'i dilyn hi gyda cân arall wych oddi ar yr albym Final Straw. Be sy'n rhyfedd gyda Snow Patrol ydi ei bod nhw wedi bod yn gigio a rhyddhau recordie ers ryw bum mlynedd, a dim ond nawr mae nhw'n torri trwodd. Newyddion da fodd bynnag!

Kentucky AFC - Bodlon (Mix)
Hwre mawr iddyn nhw am gyrraedd Rhif 1 yn Siart C2! Band gwych, band gwych.

Ashokan - Seniorita
O i fod yn Sbaen, eh? Hwn oddi ar albym newydd Ashokan, Diolch am Ddal y Gannwyll. Mae erthygl am y band yn y rhifyn newydd o gylchgrawn Tu Chwith, sydd ar gael yn y siopau nawr.

Joy Zipper - Baby You Should Know.
Cariadon o'r Unol Dalieithiau sy'n gwbod sut i greu caneuon hyfryd yn ddibynadwy ar eiriau od a melodiau hyfryd.

Llwybr Llaethog - Anomie Ville a Ffestiniog Dyb
Mwy o'r gig yn Ty Tawe - lle da sy'n rhoi gigs ymlaen yn gyson. Lot o yfed yn mynd mlaen hefyd.

Amy Winehouse - In My Bed
Jazz, ond dim fel ni'n nabod e. Fi'n hoffi ei llais, a'i dannedd mawr.

Gogz - Digon Hawdd
Trac o'r sesiwn byw naethon nhw recordio i Lisa Gwilym ar C2. Cliciwch yma i wrando ar y sesiwn yn llawn.

Meic Stevens - Bibopalwla'r Delyn Aur
Mae fersiwn Cate Timothy o Alcatraz o'r gân wedi gneud fi ishe clywed hwn yn fwy fwy yn ddiweddar!


Gwrando

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

C2 ar BBC iPlayer

Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.

Welsh word of the day

Huw Stephens
[an error occurred while processing this directive]


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.