Main content

Lukhanyo Moyake

Tenor o Dde Affrica, 30 oed

English

Mae Lukhanyo’n gweithio ar hyn o bryd yng Nghwmni Opera Cape Town, De Affrica. Bu’n perfformio yn y tŷ opera hwn ers graddio yn 2010, gan gamu i mewn i lu o wahanol rannau’n cynnwys Alfredo [La Traviata], Jaquino [Fidelio], Belmote [Die Entführung aus dem Serail], Leicester [Maria Stuarda] a Camille de Rosillon [The Merry Widow].

Gyda chynhyrchiad Opera Cape Town o Porgy and Bess, treuliodd Lukhanyo dymor 2014/15 yn teithio yn Sbaen, gan ganu rhan Sportin’ Life yn y Teatro Real de Madrid a’r Gran Teatre del Liceu, Barcelona.

Yn haf 2015 a 2016 cyrhaeddodd rowndiau terfynol Cystadleuaeth Ganu Ryngwladol Hans Gabor Belvedere, a gynhelir yn Amsterdam. Cafodd 3edd wobr hefyd yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Neue Stimmen a gynhelir yn yr Almaen.

Yn cydredeg â’i yrfa ym myd yr opera, mae’n perfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau, gan ganu Lieder ac oratorios. Yn 2016 enillodd yr Emmerich Smola Förderpreis yn Landau, yr Almaen. Yn ddiweddar canodd ran Naraboth yn Salome, Don Jose yn Carmen ac mae’n gweithio ar hyn o bryd ar rôl y Dug yn Rigoletto.

Repertoire

Main prize repConcert 3
Ella mi fu rapita! … Parmi veder le lagrimeRigolettoVerdi
L’amour! L’amour! … Ah! lève-toi, soleilRoméo et JulietteGounod
La fleur que tu m’avais jetéeCarmenBizet
Song prizeRecital
Pace non trovo3 Petrarch Sonnets No 1Liszt
Benedetto sia’l giorno3 Petrarch Sonnets No 2Liszt
I’vidi in terra angelici costumi3 Petrarch Sonnets No 3Liszt