Main content

Iurii Samoilov

Bariton o Wcráin, 28 oed

English

Daw Iurii o’r Wcráin a chafodd ei radd Meistr o’r Academi Cerddoriaeth Cenedlaethol gydag anrhydedd, wedi astudio gyda Roman Mayboroda. Bu’n fyfyriwr gwadd hefyd yn Academi Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd ac yn aelod o’r Opera Studio Nederland yn Amsterdam. Mae wedi cymryd rhan mewn sawl academi a phrosiect fel Academi Solti Te Kanawa ac Accademia Rossiniana (Pesaro), Academi Mozart (Aix-en-Provence) a’r Prosiect Cantorion Ifanc (Salzburg).

Ymhlith y gwyliau a’r theatrau y mae Iurii wedi perfformio ynddynt mae Teatro Real Madrid, Theatr Bolshoi Moscow, Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd, Theater Basel, Gŵyl Salzburg, Gŵyl Opera Rossini, Gŵyl Operadagen Rotterdam, Opera Dinas Vilnius, Concertgebouw Amsterdam, y Royal Albert Hall a Frankfurt Alte Oper.

Mae’n aelod ensemble yn Opera Frankfurt lle gwnaeth ei berfformiad cyntaf fel Marcello (La Bohème), Dandini (Cenerentola), y brif ran yn Don Giovanni, Conte (Le Nozze di Figaro), Enrico (Lucia di Lammermoor) a’r brif ran yn Eugene Onegin, ymysg eraill. Y tymor nesaf yma bydd yn canu Guglielmo (Così fan tutte) a Ned Keene (Peter Grimes) yn Frankfurt ac yn dychwelyd i Theatr y Bolshoi Moscow yn rôl deitl Billy Budd.

Repertoire

Main prize repConcert 3
Hai già vinta la causa! ... Vedrò mentr’io sospiroLe nozze di FigaroMozart
Billy in the darbiesBilly BuddBritten
Do not sing, my beautyRomance Op 4 No 4Rachmaninov
Song prizeRecital
In the midst of the ballOp 38 No 3Tchaivkosky
Don Juan’s serenadeOp 38 No 1Tchaikovsky
Yesterday we metOp 26 No 13Rachmaninov
I am alone againOp 26 No 9Rachmaninov
In the silence of the nightOp 4 No 3Rachmaninov
Non t’amo più!Tosti
Song prize final
In the midst of the ballOp 38 No 3Tchaikovsky
Don Juan’s SerenadeOp 38 No 1Tchaikovsky
Nell’ orror di note oscura 6 romanzeNo 4Verdi
StornelloVerdi
Yesterday we metOp 26 No 13Rachmaninov
I am alone againOp 26 No 9Rachmaninov
In the silence of the nightOp 4 No 3Rachmaninov