Claron McFadden
Y ddau reithgor
Soprano o’r Unol Daleithiau yw Claron McFadden sy’n nodedig yn arbennig am ei dehongliadau o operâu modern a chyfoes, ond sydd hefyd yn arbenigo ar rolau cynnar a baróc. Mae ei rhannau mewn operâu yn cynnwys y brif rôl yn Lulu ac Y Rheolwr yn Flight gan Jonathan Dove, y ddau yn Glyndebourne; Zerbinnetta Ariadne auf Naxos yn Opera Cenedlaethol yr Iseldiroedd; a llu o brosiectau ledled Ewrop, gan gynnwys Dido and Aeneas a Les Indes galantes.
Caiff ei chysylltu’n benodol â cherddoriaeth Wolfgang Rihm a Harrison Birtwistle. Bu’n perfformio yn y perfformiad cyntaf erioed o The Woman and the Hare Birtwistle, ac mae hefyd wedi ei recordio. Cydweithiodd Claron sawl gwaith â Jörg Widmann gan gynnwys Babylon gyda’r Bayerische Staatsoper
Yr oedd ei hymddangosiadau diweddar yn cynnwys Sunken Garden gan Michel van der Aa yng Ngŵyl yr Iseldiroedd 2014, gydag Opera Cenedlaethol Lloegr a’r Opéra de Lyon (March 2015). Bu Claron yn canu yn seremoni coroni Brenin yr Iseldiroedd, y Brenin Willem Alexander. Mae ei pherfformiadau i’r dyfodol yn cynnwys Semele gyda’r Residentie Orchestra, cyngherddau gyda’r Minquet Quartet, Stuttgarter Kammer Orchester a Cherddorfa Siambr Iwerddon.
Mae ei recordiadau yn cynnwys Paul Celan Songs gan Birtwistle, Orfeo Haydn a Paride ed Elena gan Gluck, ac fel Aspasia yn Alexander Balus Handel Mae ei hymddangosiadau ar y teledu yn cynnwys My Night with Handel ar Channel 4.
Gwnaeth Claron ei hymddangosiad cyntaf fel perfformiwr theatr gyda’i monodrama Lilith a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl yr Iseldiroedd 2012.
Yn 2007 dyfarnwyd Gwobr Gelfyddydau Amsterdam i Claron McFadden.

