Main content

David Pountney

Cadeirydd y ddau reithgor

Cadeirydd y ddau reithgor

Yn Gyfarwyddwr Opera a Phrif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru, daeth David Pountney i enwogrwydd rhyngwladol drwy ei gynhyrchiad o Katya Kabanova yng Ngŵyl Wexford 1972.

Rhwng 1975 ac 1980, yr oedd yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau i Opera’r Alban, lle yr oedd y cynyrchiadau yn cynnwys cylch gan Janáček mewn cydweithrediad ag Opera Cenedlaethol Cymru, gan dderbyn medal Janáček. Daeth yn Gyfarwyddwr Cynyrchiadau Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1980, gan gyfarwyddo dros 20 opera. Mae wedi cyfarwyddo llawer o berfformiadau cyntaf yn y byd, gan gynnwys tri gan Peter Maxwell Davies, gan ysgrifennu’r libreto ar eu cyfer hefyd, ac mae wedi cyfieithu operâu i’r Saesneg o Rwsieg, Tsieceg, Almaeneg ac Eidaleg.

O 1992 ymlaen bu’n gweithio’n rheolaidd yn Zurich, Fiena a Munich yn ogystal ag yn America a Japan, ac yn y DU mae ganddo gysylltiad ers tro byd ag Opera North. Derbyniodd fedal Martinů am ei gynyrchiadau o Julietta a Greek Passion (Opera North a Gŵyl Bregenz). Mae ei gynyrchiadau wedi ennill gwobr Olivier ar ddau achlysur. Mae ei gynyrchiadau diweddar yn cynnwys Prince Igor, The Passenger, opera newydd gan Philip Glass, Spüren der Verirrten, a enillodd Wobr Schickaneder am y cynhyrchiad opera gorau yn 2013, a Die Zauberflöte ar gyfer y llyfan yn y llyn yn Bregenz, lle yr oedd David yn Arolygwr rhwng 2003 – 2013.

Ers ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru yn 2011, mae wedi cyfarwyddo Lulu, Guillaume Tell, Mosè in Egitto a Chorus! Mae’r gwobrau a ddyfarnwyd iddo'n cynnwys y CBE, Chevalier yn Ordre des Arts et Lettres Ffrainc, Croes y Cafalîr o Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl a’r Ehrenkreuz des Bundes Osterreich.