Main content

John Fiore

Rheithgor BBC Canwr y Byd

John Fiore

John Fiore yw Cyfarwyddwr Cerdd Opera a Bale Norwy. Ef gynt oedd Prif Arweinydd y Deutsche Oper-am-Rhein (1998-2009) ac ar yr un pryd roedd hefyd yn Generalmusikdirektor y Düsseldorfer Symphoniker am wyth tymor.

Mae uchafbwyntiau’r tymor presennol yn cynnwys ymddangosiad cyntaf yn Opéra National de Bordeaux (Norma), cynhyrchiad newydd o Pád Arkuna (The Fall of Arkun) yn y Czech National Theater, ac arwain Peer Gynt Reinvere (y perfformiad cyntaf erioed), Sancta Susanna Hindemith/A Florentine Tragedy Zemlinsky (cynhyrchiad newydd), Lohengrin a Madama Butterfly yn Opera Norwy. Mae uchafbwyntiau eraill diweddar yn cynnwys ymddangosiad cyntaf yn Teatro San Carlo (Rusalka), Deutsche Oper Berlin (Turandot), Grand Théâtre de Genève (Andrea Chénier a Nabucco) a chyda’r Orchestre de la Suisse Romande.

Yn adnabyddus yn y tai opera rhyngwladol, bu M. Fiore yn westai mynych yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd a thai opera Ewropeaidd nodedig gan gynnwys Bayerische Staatsoper, Semperoper Dresden, Oper Köln, a’r Teatro dell'Opera di Roma. Yn yr Unol Daleithiau, bu ganddo berthynas ers tro byd ag Operâu Chicago Lyric a San Francisco.

Ganwyd Mr Fiore yn Efrog Newydd a dechreuodd ei weithgareddau cerddorol proffesiynol yn 14 oed fel pianydd a hyfforddwr ar gyfer cynhyrchiad blynyddol Seattle Opera o Der Ring des Nibelungen Wagner ac yn ddiweddarach mynychodd Ysgol Gerdd Eastman yn Rochester, Efrog Newydd.