Main content

Huw Watkins

Y tymor hwn rydym yn falch iawn o groesawu’r cyfansoddwr o Gymru Huw Watkins fel ein Cyfansoddwr Cysylltiedig newydd. Bu i ni gael cyfweliad byr er mwyn dod i’w adnabod yn well.

Gwrandewch ar weithiau Huw Watkins yn ystod tymor 2015-16:

  • London Concerto – Hydref 2015
  • Portread Cyfansoddwr – Chwefror 2016
  • Concerto Ffliwt – Mawrth 2016

Beth oedd y dylanwadau cerddorol cynharaf arnat ti?

Roedd piano yn ein cartref bob amser, ac roedd pawb arall yn y teulu yn ei chanu, felly roedd yn naturiol i mi ddysgu gwneud hynny. Roedd fy mam yn athrawes gerddoriaeth, mae fy nhad yn ffidlwr amatur ac mae fy
mrawd hŷn, Paul Watkins, yn chwarae’r soddgrwth hefyd, felly roedd yna lawer o ddylanwadau cerddorol yn y teulu!

Pryd y dechreuaist ti arbrofi â chyfansoddi?

Roedd yna lawer o bapur erwydd o gwmpas y tŷ a roeddwn wrth fy modd yn ceisio ei lenwi – gyda phob math o sothach mae’n debyg! Roedd y diddordeb yn ychydig o obsesiwn gen i pan oeddwn yn fy arddegau.

Oeddet ti’n teimlo dylanwad cyfansoddwyr o gymru?

Yn ffodus iawn cefais fy nghyflwyno i’r cyfansoddwr o Gymro Mervyn Burtch pan oeddwn yn 14 oed; bu’n ddylanwad cynnar rhyfeddol o ysgogol a bu iddo fy nghyflwyno i bob math o gerddoriaeth nad oeddwn yn ymwybodol ohonynt. Wrth gwrs, Alun Hoddinott a William Mathias oedd y prif gyfansoddwyr Cymreig pan oeddwn yn tyfu i fyny, ac rwyf bob amser wedi edmygu’r ddau gymeriad gwahanol iawn yma.

Rwyt wedi gweithio gyda CGG BBC ers nifer o flynyddoedd, sut y cychwynnodd hynny?

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael cefnogaeth CGG BBC ers cymaint o amser; bu iddynt gomisiynu fy Sinfonietta, a gyfansoddais yn 2000, a bu i gomisiynau eraill ddilyn hynny, yn cynnwys concerto piano. Tyfais i fyny yn mynd i weld y Gerddorfa yn Neuadd Dewi Sant yn ystod y 1980au a’r 1990au, gan eu gweld yn gwella a gwella yn ystod y cyfnod hwnnw, felly bu’n fraint gweithio gyda hwy yn ystod y blynyddoedd mwy diweddar.

Sut broses gyfansoddi wyt ti’n ei defnyddio?

I fi, mae angen bod yn eithaf disgybledig. Mae’n rhaid i mi fod yn eithaf llym o ran neilltuo cyfnodau o amser ar gyfer cyfansoddi oddi wrth fy ngwaith perfformio a theithio; mae’n eithaf anodd cyfansoddi darn gyda dim ond ambell ddiwrnod yma ac acw, felly mae angen i mi ganfod cyfnodau rhydd. Yn aml rwyf yn cael y syniadau gorau pan nad oes cyfle gen i i’w hysgrifennu ar bapur, ond yn bennaf rwyf yn tueddu I ysgrifennu wrth y piano, a dyna’r prif le ble mae syniadau yn cael eu creu mae’n debyg, yn hytrach nag o’r awyr!

Beth wyt yn ceisio ei fynegi yn dy gerddoriaeth?

Rwyf eisio ceisio cynnal diddordeb pobl a’u cludo i rywle. Nid wyf eisiau i’r gerddoriaeth fod yn gefndir neu’n awyrgylch; rwyf eisiau iddi fod yn ddeinamig! Mae’n rhaid i gynulleidfaoedd wneud ychydig o ymdrech, yn arbennig gyda cherddoriaeth anghyfarwydd, ond rwyf eisiau eu cyfarfod hanner ffordd.

Beth fyddech yn ei ddweud wrth rywun sy’n nerfus o ran profi cerddoriaeth gyfoes?

Buaswn i’n dweud – peidiwch â phoeni os nad ydych yn hoff ohoni yn syth, ond peidiwch â phenderfynu ar ôl ei chlywed unwaith yn unig! O fy mhrofiad fy hun, mae yna rai darnau yr wyf wedi eu casáu ar y cychwyn, ond yr wyf yn raddol wedi dod i’w caru yn ddiweddarach. Peidiwch ag ofni dweud eich barn ar ôl yr argraff gyntaf, ond peidiwch ag ofni newid eich meddwl.

Beth yw eich cynlluniau fel cyfansoddwr cysylltiedig?

Buaswn wrth fy modd yn cymryd rhan ym mywyd y Gerddorfa, efallai dod i chwarae hyd yn oed a dod i siarad am y cyfansoddwyr eraill fyddai’n ddifyr i’w harchwilio efallai. Mae yna sôn am gwpl o gomisiynau gan y BBC, felly amser a ddengys!