Main content
Sut mae mynd â cherddorfa ar daith i Dde America
Andrew Farquharson - Rheolwr Gweithrediadau a Logisteg
Gyda mwy nag 17,000 o filltiroedd i'w teithio, nid peth hawdd yw cludo cerddorfa lawn i Dde America gyda 260 o offerynnau. Dyma Reolwr Gweithrediadau a Logisteg Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Andy Farquharson, i esbonio sut mae gwneud hyn.
Gall llunio manylion terfynol y daith gymryd misoedd lawer, mae'n debyg iawn i jig-so
Fy ngwaith i mewn gwirionedd yw sicrhau ein bod ni'n cael y bobl briodol (a'u hofferynnau) i'r lle priodol ar yr amser priodol. Rydw i'n cefnogi ac yn rheoli'r cerddorion, ac yn ceisio gofalu am yr holl elfennau 'tu ôl i'r llenni' ar eu cyfer, er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar roi perfformiad gwych, a dim arall.
Darllenwch flog Andy yn llawn yn bbc.co.uk/wales [Blog Saesneg]


