Jaeyoon Jung
Tenor o Dde Corea, 31 oed
Cefais fy ngeni yn Gangneung ac astudiais yn Seoul ac yn Academi Opera Telynegol Teatro alla Scala a Conservatorio di musica Giuseppe Verdi ym Milan. Mae gwobrau diweddar yn cynnwys gwobr gyntaf yng nghystadleuaeth ganu ryngwladol Giacinto Prandelli yn Brescia a gwobr gyntaf yng nghystadleuaeth ganu Ryngwladol Giulietta Simionato, Acqui Terme, a hynny yn 2014.
Mae'r rhannau yr wyf wedi eu perfformio yng Nghorea yn cynnwys Don Curzio Le nozze di Figaro ac Eisenstein Die Fledermaus. Ers symud i'r Eidal rwyf wedi ymddangos fel Edoardo di Sanval Un giorno di regno yn Teatro Filarmonico di Verona a Dormont La scala di seta yn La Scala, yn 2013. Hefyd yn La Scala perfformiais yr unawd tenor ym male La serata Ratmansky a chymerais ran hefyd mewn nifer o gyngherddau gala yn y theatr. Llynedd, cenais Il duca di Mantova Rigoletto yn Castello di Padernello, Brescia. Mae'r cyngherddau yr wyf wedi cymryd rhan ynddynt yn cynnwys Offeren C fwyaf Beethoven yn Teatro comunale di Firenze yn 2012 a chyngerdd fel rhan o Flwyddyn o Ddiwylliant Eidalaidd yn Chicago yn 2013.

