Soile Isokoski
Y ddau reithgor
Ymwelodd Soile Isokoski gyntaf â Chymru fel cystadleuydd yn cynrychioli’r Ffindir yn 1987, pryd y llwyddodd i gyrraedd y rownd olaf hynod gyffrous a chystadleuol. Aeth ymlaen i ddod yn un o sopranos enwocaf ei chenhedlaeth, gan ennill medal Pro-Finlandia yn 2002 i gydnabod ei chyfraniad i gerddoriaeth y Ffindir.
Mae’n wyneb adnabyddus ar lwyfannau opera a chyngherddau rhyngwladol, ac wedi gweithio gydag arweinyddion yn cynnwys Philippe Herreweghe, Jukka-Pekka Saraste, Seiji Ozawa, John Eliot Gardiner, Sir Colin Davis, Zubin Mehta, Daniel Barenboim, Syr Simon Rattle, Bernard Haitink, Claudio Abbado, Riccardo Muti, Valery Gergiev, Pierre Boulez a James Levine, yn ogystal â rhoi sawl datganiad. Mae ei chatalog o recordiau yn cynnwys Four Last Songs Strauss dan Marek Janowski a dwy CD Sibelius; Kullervo gyda Tommi Hakala (Diapason d’Or 2008) a Luonnotar ac Orchestral Songs (gwobr glasurol MIDEM, Gwobr Lleisiol BBC Music Magazine a Disg y Flwyddyn 2007). Dyfarnwyd Medal Sibelius iddi yn 2007 ac fe’i hanrhydeddwyd â’r teitl Kammersängerin Awstria yn 2008.
Mae ei huchafbwyntiau diweddar yn cynnwys Marschallin Der Rosenkavalier yn Llundain a Genefa, Donna Elvira Don Giovanni yn Los Angeles a Fiena, Desdemona Otello yn y Wiener Staatsoper ac yn Berlin, Elsa Lohengrin yn Los Angeles a’r Semperoper Dresden ac Ariadne Ariadne auf Naxos yng Ngŵyl Glyndebourne.

