Dennis O'Neill
Rheithgor BBC Canwr y Byd
Mae Dennis O’Neill wedi ymddangos gyda holl brif gwmnïau'r byd, gan arbenigo yng ngwaith Verdi. Yn 2005 dyfarnwyd iddo Fedal Verdi gan yr Amici di Verdi fel cydnabyddiaeth o’i waith yn y maes hwnnw.
Yn ystod ei berthynas hirfaith â’r Tŷ Opera Brenhinol, mae wedi ymddangos mewn dros 200 o berfformiadau yn y rolau mawr i’r tenor gan Verdi. Yng Ngogledd America mae ei lu o ymddangosiadau wedi cynnwys y Metropolitan Opera, San Francisco Opera a'r Lyric Opera, Chicago.
Aeth ei yrfa helaeth ar gyfandir Ewrop ag ef i Munich, Fiena, Paris, Berlin, Ferona, Rhufain, Lisbon, Florence, Bologna, Barcelona a Milan.
Fe’i penodwyd yn Gomander yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i opera, ac fe’i cydnabyddwyd hefyd gydag Aelodaeth Anrhydeddus yr Academi Gerdd Frenhinol ac Urdd Sant Ioan.
Mae’n rhoi dosbarthiadau meistr ledled byd, gan deithio y tymor hwn i’r Iseldiroedd, Awstralia, Seland Newydd, Rwsia, Japan a’r Eidal. Mae’n athro gwadd mewn sawl sefydliad, gan gynnwys yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Rhaglen Artistiaid Ifanc yn Covent Garden, a bydd Dennis yn gweithredu'n aml fel beirniad mewn cystadlaethau rhyngwladol.
Ganwyd Dennis O’Neill ym Mhontarddulais ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Ef yw Sefydlydd a Chyfarwyddwr Academi Llais Rhyngwladol Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

