Ariunbaatar Ganbaatar
Bariton o Fongolia, 29 oed
Graddiodd Ariunbaatar ym Mhrifysgol Celfyddydau a Diwylliant Gwladwriaeth Mongolia.
Yn 2011, enillodd 24ain Gystadleuaeth Canu Rhyngwladol Glinka ym Moscow gan ennill gwobr i’r bariton gorau yn y gystadleuaeth a gwobr arbennig Pavel Lisitsian. Yn 2011, urddwyd Ariunbaatar yn artist anrhydeddus Mongolia, statws a roddwyd gan Arlywydd Mongolia. Yn 2014, enillodd wobr gyntaf yn nhrydedd Gystadleuaeth Canu Rhyngwladol Muslim Magomaev ym Moscow. Ers hynny bu’n unawdydd i Theatr Opera a Bale Gwladwriaeth y Buryat yn Ulan-Ude, Rwsia.
Yn 2015, enillodd Ariunbaatar y wobr gyntaf (Medal Aur) a’r Grand Prix yn y bymthegfed Gystadleuaeth Tchaikovsky Ryngwladol. Ac yn 2015 hefyd, yn syth wedi’r gystadleuaeth honno, gwahoddwyd Ariunbaatar i berfformio yn y Carnegie Hall yn Efrog Newydd. Yn 2015, perfformiodd Ariunbaatar yn Theatr y Bolshoi ym Moscow, Rwsia ac yn Neuadd Cadogan yn Llundain, Lloegr, ac yn yr un flwyddyn perfformiodd Aria Yeletsky o Queen of Spades Tchaikovsky ym Mhalas Buckingham.
Yn 2016, perfformiodd ran Escamillo (Carmen) a’r Barwn Scarpia (Tosca) yn Theatr Marinsky yn St Petersburg, Rwsia. Perfformiodd Ariunbaatar yn Yerevan, Armenia hefyd ar gyfer 60fed Cynulliad Cyffredinol Ffederasiwn Cystadlaethau Cerddoriaeth Rhyngwladol y Byd.
Repertoire
| Main prize rep | Concert 2 | |
|---|---|---|
| Per me giunto ... Io morro | Don Carlo | Verdi |
| Alzati! Là tuo figlio … Eri tu | Un ballo in maschera | Verdi |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| Élégie | Massenet | |
| In the silence of the night | Op 4 No 3 | Rachmaninov |
| Ich liebe dich | Op 5 No 3 | Grieg |
| Your Tears | Jantsannorov | |
| Oh no, I beg you, do not leave | Op 4 No 1 | Rachmaninov |
| Song prize final | ||
|---|---|---|
| Ständchen | D889 | Schubert |
| Don Juan’s serenade | Op 38 No 1 | Tchaikovsky |
| Après un rêve | Op 7 No 1 | Fauré |
| None but the lonely heart | Op 6 No 6 | Tchaikovsky |
| The Steppes of Mongolia | Sharav |
| Main Prize | Final | |
|---|---|---|
| Largo al factotum | Il barbiere di Siviglia | Rossini |
| I love you | The queen of spades | Tchaikovsky |
| Si può? si può? Signore! | Pagliacci | Leoncavallo |


