Pobl Patagonia
Osian Rowlands - Rheolwr y Corws
Mae Patagonia fel myth – y lle Gymraeg yma yn yr Ariannin. Fi 'di clywed lot amdani a’n credu bod o'n ysbrydoli ond i gweld o gyda fy llygad fy hunan mae wedi dod a’r myth bach yna i fod yn wir.
mae pawb mor hapus i weld ni a ni’n mor hapus i bod ma
Yn cerdded lawr stryd yn Gaiman a weld Siop Fara – a enw’r siop oedd ‘Siop Bara’, clywed pobl yn siarad Cymraeg, gweld cyn cyd-weithwraig i’n fam yng ngyffreth yn eistedd ty fas siop – rhywun yn cyfarchu fel ‘Helo Osian, shwt wyt ti, mae wedi bod yn grêt.
Mae’r pobl ma yn byw eu fywyd fel i ni mewn ffordd, yn Gymreig a Sbaeneg fel i ni’n byw yn dwyiaithog; ac ar ochr arall y byd. Mae’n normal i nhw – sy’n rhyfedd i fi! Ond yn anhygoel i cael blas o’r cymuned Cymraeg hyn.
Roedd un moment yn ymarfer côr yn Gaiman lle wnaeth côr o merched canu darn gan Héctor Macdonald (cyfansoddwr o Batagonia) am Y Wladfa ac erbyn diwedd y canu angherddol ‘na, o’n i methu symyd a daeth deugrin bach o emosiwn mas.
Mae Catrin Heled Morris – fy athro o Ysgol Gyfun Rhydfelen yn Pontypridd yn nawr byw yn Patagonia. Nawr yn athrawes yn Ysgol yr Hendre (Gaiman) wnaeth hi symyd allan i’r Wladfa 17 mlynedd yn ôl lle wnaeth hi feindio ei gŵr hi.
Ni wedi cadw mewn cysylltiad ers i fi adael ysgol a siarad lot cyn i ni ddod allan ond mae wedi bod yn lyfli i gweld hi eto. Wnaethon ni cyfweliad a’n gilydd ar rhaglen Eleri Sion (Radio Wales) a roedd y ddau o ni’n eithaf emosiynol yn siarad.
I weld BBC NOW yn gweithio yn ei hysgol hi, Ysgol yr Hendre, fi’n credu mae wedi rili bwrw adre iddi hi a bach o hiraeth falle trwy adael Cymru a cofio’r pethau wnaeth hi adael ar ôl. O’r ochr arall mae wedi codi’r awydd i fwy a mae hi eisiau gweld y math yma o peth yn digwydd eto ac bod na gwaddol ar ôl y daith yma.
Mae’n anodd rhoi mewn i geiriau faint o brofiad mae wedi bod. Mae pobl mor croesawgar, croeso mor cynnes yn bob man, mae pawb mor hapus i weld ni a ni’n mor hapus i bod ma. Ni ‘di bod yn sôn am y daith am 18 mis a mae nawr yn digwydd - mae’n ffab.


