Ynglŷn â'r Daith
Darganfod mwy am y daith
Dros dair wythnos, bydd y Gerddorfa'n perfformio mewn neuaddau cyngerdd yn yr Ariannin, Chile ac Uruguay. Hefyd, bydd BBC NOW yn gweithio gyda chymunedau ledled Patagonia yn ystod cyfnod preswyl o wythnos i nodi 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa yno.
Y cyfnod preswyl ym Mhatagonia
Rhwng 22 – 30 Hydref, bydd y delynores Catrin Finch, yr arweinydd Grant Llewellyn a deuddeg aelod o BBC NOW yn teithio 12,000 km i dreulio wythnos mewn trefi yn nhalaith Chubut yn yr Ariannin yn gweithio gyda mwy na 1000 o blant o ysgolion a grwpiau cymunedol ym Mhatagonia. Drwy berfformio a chynnig gweithdai a dosbarthiadau meistr, bydd y cerddorion yn gweithio gydag ysgolion a chymunedau mewn trefi fel Porth Madryn, Rawson, Trelew, Trevelin, Esquel a Gaiman.
Daw'r cyfnod preswyl ym Mhatagonia i ben gyda dau berfformiad gala yn y Predio Ferial - hen warws gwlân sy'n cael ei drawsnewid yn neuadd gyngerdd yn arbennig ar gyfer cyngherddau BBC NOW, ac a fydd yn ddiweddarach yn cynnal Eisteddfod flynyddol y dref. Mae'r gerddorfa wedi bod yn rhan fawr o'r gwaith o adfywio'r warws, a'r nod yw gadael etifeddiaeth barhaol ar gyfer cerddoriaeth a'r celfyddydau yn y rhanbarth fel ei fod yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid.
Dysgwch ragor am ddathliadau Patagonia150 yma.
Cyngherddau
Bydd BBC NOW yn mynd ymlaen i berfformio yn un o'r neuaddau cyngerdd gorau yn Ne America, ac yn parhau i weithio gyda cherddorion ifanc drwy gyfres o ddosbarthiadau meistr ar hyd y ffordd.
Cynhelir cyngherddau yn:
- Teatro Colon, Buenos Aires - 2 Tachwedd a 4 Tachwedd
- Teatro El Círculo, Rosario - 5 Tachwedd
- Teatro del Libertador General San Martín yn Cordoba - 6 Tachwedd
- Yna, byddant yn teithio i CorpArtes yn Santiago, Chile - 8 Tachwedd
- Teatro Solis yn Montevideo, Uruguay - 11 Tachwedd
Caiff y daith bwysig hon ei rheoli gan Intermusica, ac ni fyddai'n bosibl heb gymorth hael BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Prydeinig yr Ariannin, Cyngor Prydeinig Cymru, Llysgenhadaeth Prydain – Buenos Aires, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Cerddoriaeth Newydd
I gefnogi'r cyfnewid diwylliannol rhwng yr Ariannin a Chymru, mae Radio 3 wedi comisiynu dau waith newydd - cafodd Hirdaith gan Hector Mac Donald, Cymro pedwaredd genhedlaeth sy'n dod o Dalaith Chubut ym Mhatagonia, ei berfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni; a We Have Found a Better Land gan y cyfansoddwr Cymreig Mark Bowden, a gaiff ei berfformio am y tro cyntaf gan Gorws Cenedlaethol Cymru y BBC (15 Tachwedd).


