Main content

Nadezhda Karyazina

Mezzo soprano o Rwsia, 30 oed

English

Ganwyd Nadezhda ym Moscow ac astudiodd yn Academi Celfyddydau Theatrig Rwsia yn y ddinas, gan ddilyn cwrs ar theatr gerddorol. Wedi graddio dechreuodd astudio yng Nghanolfan Opera Galina Vishnevskaya ac wedyn yn Rhaglen Artistiaid Ifanc Theatr y Bolshoi.

Yn 2012, dechreuodd ganu gydag Opera di Roma a Theatr Genedlaethol Latfia. Yn yr un flwyddyn enillodd ail wobr yn y Gystadleuaeth Ganu Ryngwladol yn Savonlinna a 3edd wobr yng nghystadleuaeth Operalia. Arweiniodd hyn at wahoddiad personol gan Placido Domingo i ganu mewn cyngherddau yn Beijing a Hwngari, a pherfformio gydag ef a Jose Carreras yn y Cyngerdd “Nadolig ym Moscow”. Am ei pherfformiad yn rhan Charlotte yn Werther dyfarnwyd yr “Österreichische Musiktheaterpreis” iddi yn adran “Artist Ifanc Gorau 2014”.

O 2013 i 2015 bu Nadezhda’n aelod o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yr Opera Brenhinol. Yn ystod y cyfnod hwn perfformiodd rannau’n cynnwys Maddalena (Rigoletto), Mercédès (Carmen) a Rosette (Manon) ymysg eraill. Yn 2015 ymunodd â’r Ensemble yn yr Hamburg Staatsoper lle mae ei rolau’ncynnwys Rosina, Cherubino, Olga a Suzuki. Yn Chwefror gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf yn Festival Opera Seland Newydd fel Carmen.

Repertoire

Main prize repConcert 1
Fia dunque vero – O, mio FernandoLa favoritaDonizetti
Près des remparts de SévilleCarmenBizet
Una voce poco faIl barbiere di SivigliaRossini
Song prizeRecital
L’amante spagnuoloDonizetti
Polo7 Canciones Populares EspañolasFalla
JohnnyCabaret songsBritten
Song of the GypsyOp 60 No 7Tchaikovsky
In the silence of the nightOp 4 No 3Rachmaninov
SchmerzenWesendonck-LiederWagner