Main content

Ezgi Karakaya

Mezzo soprano o Dwrci, 28 oed

English

Astudiodd Ezgi opera yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Anadolu yn 2005 gan gymryd rhan mewn sawl cyngerdd a phrosiect tra roedd hi yno. Yn 2010 enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf. Yn y flwyddyn honno hefyd dechreuodd weithio i gwmni Opera a Bale Gwladwriaethol Twrci yn Ankara lle bu’n gweithio gyda Zuhal Gurgen a Ferda Yetiser ac mae’n dal i ganu gyda’r Opera yn Ankara.

Ymhlith ei rhannau mae Clarina (La Cambiale di Matrimonio), Giannetta (L’elisir d’amore), Volpino (Lo Speziale), Giovanna (Rigoletto), Prince Orlofsky (Die Fledermaus), Suzuki (Madama Butterfly), Mercédès (Carmen), Enrichetta di Francia (I Puritani), Czipra (Der Ziguenerbaron), Flora (La Traviata), Metella (La Vie Parisienne) a Geneviève (Pellèas et Mèlisande).

Mae Ezgi wedi perfformio hefyd yn 9fed Symffoni Beethoven, Requiem Mozart ac ail Symffoni Mahler. Yn 2016 enillodd wobr gyntaf yng nghategori proffesiynol y nawfed Gystadleuaeth Genedlaethol i Unawdwyr Ifanc a gynhelir yn Izmir, a chafodd wobr arbennig gan un o’r beirniaid – cynigiodd y cyfarwyddwr llwyfan Eija Tolpo gyfle iddi ymuno â dosbarth meistr yn Academi Gerddoriaeth Savonlinna ac astudio gyda’r Athro Konrad Jarnot, lle mae hi o hyd yn astudio.

Repertoire

Main prize repConcert 3
Da, chas natalThe Maid of OrleansTchaikovsky
Vois sous l’archet frémissant … C’est l’amour vainqueurLes contes d’HoffmannOffenbach
Fia dunque vero … O mio FernandoLa favoritaDonizetti
Song prizeRecital
NebbieRespighi
AllerseelenOp 10 No 8R Strauss
Après un rêveOp 7 No 1Fauré
You, you, youAfifeErdener
ErlkönigD328Schubert