Rhyfedd a rhyfeddol: Doniau BBC NOW yn wledd i'r Wladfa
Naomi Thomas - Prif Ail Ffidil
Mae'r ymweliad â Phatagonia yn yr Ariannin wedi bod yn brofiad digon rhyfedd! Rydw i newydd dreulio wythnos a hanner gydag 11 o gerddorion eraill BBC NOW yn gweithio gydag ysgolion, ysgolion arbennig a cherddorfeydd lleol draw yn y Wladfa. Er i mi gael fy magu yn Lloegr, cefais fy ngeni yn Aberystwyth ac roeddem yn cynnal y traddodiad Cymreig yn y cartref. Mae crwydro o amgylch y dref hon yn Ne America (dros 7000 o filltiroedd o Gymru) a gweld baner Cymru y tu allan i gartrefi yn brofiad anhygoel. Rydw i'n falch iawn o fod yn Gymraes, ac mae bod yma yn codi hiraeth. Rydw i'n meddwl eu bod nhw'n teimlo hynny yma – er bod Cymru ar ochr arall y byd, maen nhw'n falch iawn o fod yn Gymry.
Rydw i'n falch iawn o fod yn Gymraes, ac mae bod yma yn codi hiraeth
Gallwch ddarllen blog llawn Naomi yn bbc.co.uk/radio3 [Blog Saesneg]


