Miriam Albano
Mezzo soprano o'r Eidal, 26 oed
Ganwyd Miriam i deulu cerddorol, a dechreuodd astudio fel feiolinydd gyda’i thad yn y Conservatory Benedetto Marcello yn Fenis. Yn un ar bymtheg oed, dechreuodd gael hyfforddiant llais ffurfiol gyda Stella Silva yn yr un ysgol gerddoriaeth. Yn 2012, ymgofrestrodd Miriam ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio yn Fienna dan Claudia Visca, ac mae’n astudio canu celfydd ac oratorio gyda Charles Spencer a Brigitte Fassbaender.
Mae Miriam bellach yn aelod ensemble gyda’r Wiener Staatsoper, lle gwnaeth ei pherfformiad cyntaf fel Annio yn La Clemenza di Tito Mozart, a lle bydd fis Hydref nesaf yn perfformio’i phrif ran gyntaf fel Cherubino yn Le nozze di Figaro Mozart. Mae wedi ymddangos mewn perfformiadau yng Ngŵyl Salzburg, yr Ŵyl Gerddoriaeth Hynafol yn Innsbruck, Gŵyl Galuppi yn Fenis, Gŵyl Eppaner yn Ne Tyrol, Gŵyl Cerddoriaeth Calan yn Gstaad, gŵyl Potsdam Sanssouci yn yr Almaen a Gŵyl Lieder Ryngwladol Zeist yn yr Iseldiroedd.
Nid yw’r byd cystadlu’n ddiarth iddi, ac mae wedi ennill gwobrau yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Francisco Viñas yn Barcelona (2016), Cystadleuaeth Ryngwladol Ada Sari yng Ngwlad Pwyl (2015), a Chystadleuaeth y Neue Stimmen yn yr Almaen (2015).
Repertoire
| Main prize rep | Concert 2 | |
|---|---|---|
| Vois sous l’archet frémissant … C’est l’amour vainqueur | Les contes d’Hoffmann | Offenbach |
| Where corals lie | Sea Pictures | Elgar |
| Tanti affretti … Fra il padre | La donna del lago | Rossini |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| La perla | S326 | Liszt |
| Fantoches | Fêtes galantes | Debussy |
| Kommt dir manchmal in der Sinn | Zigeunerlieder No 7 | Brahms |
| Die Kartenlegerin | Op 31 no 2 | Schumann |
| Stornello | Cimara |


