Main content

Ffeithiau difyr am y daith

O Gymru i Dde America

Beth sydd ei angen i fynd â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i Dde America?

  • Mae angen llenwi 45 o focsys mawr i gludo holl gyfarpar ac offerynnau BBC NOW. Mae angen chwe bocs dim ond i gludo'r gwisgoedd cyngerdd!
  • Bydd BBC NOW yn cludo dros 260 o offerynnau pan fyddant yn mynd ar daith.
  • Gyda'i gilydd mae'r cyfarpar a'r offerynnau'n pwyso 3.5 tunnell – sy'n cyfateb i 3,500 bag o siwgr!
  • Yn ystod y daith dair wythnos, bydd y gerddorfa'n teithio am 80 awr i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd pob cyngerdd a gweithdy mewn pryd - mae hynny dros dri diwrnod!
  • Yn ystod y tair wythnos, bydd BBC NOW yn teithio 17, 171 o filltiroedd - sydd yr un faint â cherdded Llwybr Arfordirol Cymru 19 o weithiau.
  • Mae hyn yn golygu un cur pen mawr i Andy, Rheolwr Gweithrediadau a Logisteg BBC NOW!

Beth fydd BBC NOW yn ei wneud ym Mhatagonia?

  • Byddant yn gweithio gyda 29 o ysgolion i roi hyfforddiant cerddorol i fwy na 1000 o blant
  • Gweithio mewn chwe thref ym Mhatagonia, sef Trevelin, Esquel, Trelew, Gaiman, Rawson a Puerto Madryn
  • Bydd cerddorion BBC NOW yn gweithio gyda phum cerddorfa ieuenctid a chymunedol
  • Bydd Osian, rheolwr corws BBC NOW, yn gweithio gyda chwe chôr (gan gynnwys Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru)
  • Bydd Andy Pidcock a cherddorion BBC NOW yn arwain 14 o weithdai i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig
  • Bydd Grant Llewellyn yn rhoi dosbarthiadau meistr ar arwain
  • Bydd Catrin Finch yn rhoi dosbarthiadau meistr ar y delyn
  • Bydd cerddorion BBC NOW yn perfformio chwe gwaith, sef tri pherfformiad anffurfiol, Noson Lawen, a dau gyngerdd Gala
  • Bydd Catrin Finch yn perfformio ar drên La Trochita
  • Bydd y gerddorfa gyfan yn perfformio dau gyngerdd gala