Kang Wang
Tenor o Awstralia, 29 oed
Mae Kang yn fab i gantorion opera proffesiynol sy’n hanu’n wreiddiol o Harbin, China, ac enillodd ei Ddiploma Artist Rhyngwladol mewn Opera yn y Royal Northern College of Music, gan gwblhau ei radd Meistr mewn Astudiaethau Cerddoriaeth yn Queensland Conservatorium Prifysgol Griffith yn Awstralia. Mae ar hyn o bryd ar ei ail flwyddyn yn Rhaglen Ddatblygu Artistiaid Ifanc Lindemann.
Y tymor diwethaf canodd Kang rôl Elvino yng nghyd-gynhyrchiad y MET a Juilliard o La Sonnambula Bellini. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i’r tŷ yn nhymor 2016/17 fel Narraboth yn Salome yn y Met. Cyn hynny bu’n aelod o’r stiwdio opera “OperAvenir” yn Theater Basel yn y Swistir yn nhymor 2014/15, a pherfformiodd yn y Corws Meibion [The Rape of Lucretia]. Canodd Romeo [Romeo & Juliette] yn IVAI Montreal yn 2016, Don José [La Tragédie de Carmen] yn IVAI Virginia yn 2014, a Nemorino [L’elisir d’amore] yn y Royal Northern College of Music. Yn y Queensland Conservatorium canodd Rinuccio [Gianni Schicchi] a Tom Rakewell [The Rake’s Progress].
Daeth Kang yn ail yng Nghystadleuaeth Ganu’r Dallas Opera Guild yn 2016 ac enillodd Wobr Dewis y Bobl. Enillodd Wobr Dewis y Bobl hefyd yng Ngwobrau Canu Cenedlaethol Dame Joan Sutherland ac enillodd Wobr Opera Clonter ym Mhrydain yn 2014. Ymhlith ei berfformiadau i ddod mae rolau gyda’r Opera Metropolitan, Lensky [Eugene Onegin] gyda Cherddorfa Symffoni Queensland, Alfredo [La Traviata] gydag Opera Cenedlaethol Cymru a Rodolfo [La Bohème] gydag Opera Austin, Texas.
Repertoire
| Main prize rep | Concert 4 | |
|---|---|---|
| L’amour, l’amour! … Ah! lève toi, soleil! | Roméo et Juliette | Gounod |
| Lunge da lei ... De’miei bollenti spiriti ... O mio rimorso! | La traviata | Verdi |
| Pourquoi me réveiller | Werther | Massenet |
| Dein ist mein ganzes Herz | Das Land des Lächelns | Lehár |
| Main Prize | Final | Conductor: Tomáš Hanus |
|---|---|---|
| Tombe degli avi miei … Fra poco a me ricovero | Lucia di Lammermoor | Donizetti |
| Lensky's aria | Eugene Onegin | Tchaikovsky |
| Che gelida manina | La bohème | Puccini |


