Main content

Julius Drake

Rheithgor Gwobr Cân BBC Canwr y Byd

Mae’r pianydd Julius Drake yn byw yn Llundain, ac mae’n arbenigo ym maes cerddoriaeth siambr, yn gweithio gyda nifer o brif artistiaid y byd, ar ddatganiadau ac ar ddisg.
Mae ei lu o recordiadau yn cynnwys datganiadau ar gyfer label Wigmore Live, gyda Lorraine Hunt Liebersen, Matthew Polenzani, Christopher Maltman, Joyce DiDonato ac Alice Coote, yn ogystal â recordiadau a enillodd wobrau gydag Ian Bostridge ar gyfer EMI, Christianne Stotijn ar gyfer Onyx a chyfres a gafodd ganmoliaeth eang gyda Gerald Finley ar gyfer Hyperion, a enillodd iddynt Wobrau Gramophone 2007, 2009 a 2011. Mae Julius yn awr yn gweithio ar brosiect mawr sef recordio holl ganeuon Franz Liszt ar gyfer Hyperion: bu i’r ail ddisg yn y gyfres, gydag Angelika Kirchschlager, ennill Gwobr BBC Music Magazine 2012.
Mae Julius Drake yn athro ymroddedig ac mae’n cael ei wahodd yn rheolaidd i gyflwyno dosbarthiadau meistr - yn Aldeburgh, Basle, Toronto, Utrecht, ac yn Sefydliad Schubert yn Baden bei Wien y tymor hwn. Mae’n Athro ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio Graz yn Awstria, lle mae ganddo ddosbarth ar gyfer pianyddion caneuon.
Mae uchafbwyntiau yn y tymor i ddod yn cynnwys teithiau yn yr Unol Daleithiau gyda Matthew Polenzani; yn Japan a Chorea gyda Anne Sophie von Ottr a Camilla Tilling, a chyfres Schumann bedair rhan yn y Concertgebouw yn Amsterdam.