Main content

Catriona Morison

Mezzo soprano o'r Alban, 31 oed

English

Ganwyd Catriona yng Nghaeredin i deulu cerddorol a dysgodd chwarae’r ffidil a’r fiola cyn troi at ganu.

Astudiodd ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Berlin a’r Royal Conservatoire yn yr Alban, gan raddio gyda Rhagoriaeth. Enillodd Catriona Wobr Oratorio Toonkunst yn yr 50fed cystadleuaeth Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd, a chyrhaeddodd y rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Lleisiau Hilde Zadek yn Fienna.

Mae Catriona’n Artist Samling ac roedd yn aelod o Brosiect Cantorion Ifanc Gŵyl Salzburg a Stiwdio Opera Thuringia. Gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Bamberg yn 2014, a pherfformiodd yn y BBC Proms 2013, ac yng Ngŵyl Basg Salzburg 2015. Mae wedi canu dan arweinwyr o fri gan gynnwys Franz Welser-Möst, Christoph Altstaedt, David Parry a Jos van Immerseel.

Mae’n aelod ensemble gyda chwmni Opera Wuppertal, lle mae ei rolau’r tymor hwn yn cynnwys Nicklausse [Les contes d’Hoffmann], Clarice [The Love for Three Oranges], a Maddalena [Rigoletto]. Ymhlith ei gwaith blaenorol mae Annina [Der Rosenkavalier] yn y Deutsches Nationaltheater Weimar, Pisandro [Il ritorno d’Ulisse in patria] i Theater Erfurt, Jacob yn opera ledrithiol Leonard Evers GOLD! i Theater Nordhausen, a fersiynau llwyfan o Requiem Mozart i Theater Hof yn Bavaria ac Alexander’s Feast Handel i Opera Cenedlaethol Lithuania.

Repertoire

Main prize repConcert 4
Where shall I fly?HerculesHandel
Werther, Werther! … Qui m’aurait dit la placeWertherMassenet
Sein wir wieder gutAriadne auf NaxosR Strauss
Song prizeRecital
Auf dem KirchhofeOp 105 No 4Brahms
Die MainachtOp 43 No 2Brahms
SchneeglöckchenOp 9 No 1Korngold
The Highland BalouA charm of lullabiesBritten
NellOp 18 No 1Fauré
MadridPauline Viardot
Song prize final
Unterm Schutz von dichten BlättergründenOp 15 No 1Schoenberg
Das schöne Beet betracht ich mi rim HaarenOp 15 No 10Schoenberg
SchneeglöckchenOp 9 No 1Korngold
Die MainachtOp 43 No 2Brahms
Ein TraumOp 48 No 6Grieg
…d'une femme par son mariCinq épitaphes No 1Vellones
...du pauvre Scarron, par lui-mêmeCinq épitaphes No 4Vellones
One-Man BandSongs of a childhood No 3Orr
Main prizeFinal
Oh patria! ... Di tanti palpitiTancrediRossini
Wie du warst!Die RosenkavalierR Strauss
Oh! La pitoyable aventure!L'heure espagnoleRavel
Thy hand, Belinda ... When I am laid in earthDido and AeneasPurcell