Profiadau bythgofiadwy ym Mhatagonia
Michael Garvey - Cyfarwyddwr
Wrth inni ddod i ddiwedd yr wythnos gyntaf ym Mhatagonia, mae pwysigrwydd yr ymweliad yn dechrau gwneud argraff arnaf. Ers y tro cyntaf imi feddwl am y prosiect, bu'n fwriad gennyf fynd â'r hyn y mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ei wneud bob dydd yng Nghymru a'i drawsblannu ym Mhatagonia. Ac wrth imi ddilyn ein cerddorion anhygoel o ysgol i gartref hen bobl, o ymarfer cerddorfa ieuenctid i ganu corawl cymunedol, dwi'n gweld yr effaith y maent yn ei chael ar bawb maen nhw'n dod i gysylltiad â nhw, a dwi'n sylweddoli ein bod ni'n gwneud rhywbeth pwysig iawn ac arbennig iawn i'r bobl yma.
dyma'n wir yw'r tro cyntaf i gerddorfa symffoni lawn berfformio yn y rhan hon o'r byd
Yn wir, pan rydym yn gweithio gyda'r cymunedau yma ym Mhatagonia sydd heb weld na chlywed cerddorion proffesiynol yn fyw o'r blaen (dyma'n wir yw'r tro cyntaf i gerddorfa symffoni lawn berfformio yn y rhan hon o'r byd) mae pŵer y gerddoriaeth honno'n cael ei theimlo am y tro cyntaf un - ac mae'n rymus iawn. Yn ddigon grymus i roi ysbrydoliaeth i fyfyrwyr ifanc sydd heb ystyried beth allai mwynhau cerddoriaeth ei wneud iddynt fel gyrfa; yn ddigon grymus i ddod â gwên i wynebau hen ferched yn y cartref nyrsio sydd heb adael yr adeilad ers blynyddoedd a'u hatgofion am eu hieuenctid yn cael ei ddeffro wrth glywed sŵn fiolín neu'r ffliwt; yn ddigon grymus i ddod â channoedd o bobl at ei gilydd i lenwi eu heglwys leol a phawb ar ei draed yn cymeradwyo eu cyfeillion sy'n canu Corws Haleliwia ochr yn ochr â cherddorion BBC NOW; mae'r gerddoriaeth, y cerddorion, ein perfformiadau'n datgloi emosiynau a fydd yn gymorth i bobl gael gwell dealltwriaeth o'r hyn ydynt a beth y gallant fod yn y dyfodol.
Gadewch imi adrodd stori wrthych chi: Archentwr yw German, ac mae'n gweithio gyda ni ers wythnos yn mynd â ni yn y car o un lle i'r llall. Nid yw'n gwybod dim am gerddoriaeth glasurol, mae'n caru rygbi ac mae'n gweithio'n galed gyda'r llongau nwyddau sy'n mynd heibio'r rhan hon o'r byd bob dydd. Arhosodd German i wylio un o'r sesiynau yr oedd cerddorion BBC NOW yn eu rhoi i grŵp o blant ag anghenion arbennig yn Puerto Madryn. Roedd y plant yn ymateb i synau na chlywsant erioed o'r blaen; roeddent yn creu synau drwy chwarae'r fiolinau a chwythu'r trympedi; roeddent yn dawnsio ac yn symud gan mai dyna'r unig ffordd oedd ganddynt i fynegi eu bod yn teimlo'n hapus o gael y profiad. Eisteddodd German yno am ryw 20 munud hyd nes na allai gymryd rhagor, gadawodd yr ystafell yn ei ddagrau i ffonio ei wraig i rannu ei deimladau am yr hyn roedd yn ei weld. Daeth i ’ngweld i yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i ddiolch imi, diolch imi am ddod â cherddoriaeth ogoneddus a cherddorion anhygoel i'w ran ef o'r byd - rhan o'r byd na chafodd hyn o'r blaen a lle bydd y profiad yn fythgofiadwy.
Dyma bwysigrwydd yr hyn y mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ei wneud ym Mhatagonia. Ydi, mae'n hyfryd bod yma i gyfrannu at ddathlu canmlwyddiant a hanner y Wladfa, ond i lawer o bobl mae cerddorion BBC NOW yn creu profiad bythgofiadwy ar ôl profiad bythgofiadwy a fydd yn newid bywydau'r rhai sydd wedi bod mor groesawus a haelfrydig tuag atom yma. Dyma beth mae BBC NOW yn ei wneud lle bynnag ydym yn y byd.



