Main content

John Chest

Bariton o'r UDA, 31 oed

English

Graddiodd John yn Stiwdio Opera’r Bayerische Staatsoper lle canodd dros 80 o berfformiadau. Cynhaliodd brentisiaethau gydag Opera Santa Fe a Theatr Opera Chicago, a chymerodd ran yn Rhaglen Opera Merola.

Yn 2010 enillodd John Gystadleuaeth Ganu Ryngwladol Stella Maris, a gwobr Arleen Auger yn 2012. Roedd yn aelod o’r ensemble yn y Deutsche Oper Berlin tan 2016 gan chwarae rolau oedd yn cynnwys Billy Budd mewn cynhyrchiad newydd gan David Alden; Valentin [Faust], Ford [Falstaff], Silvio [Pagliacci], Figaro [Il barbière di Siviglia], Papageno [Die Zauberflöte], Gugliemo [Così fan tutte] ac Il Conte Almaviva [Le Nozze di Figaro].

Ymhlith rhannau eraill a gymerwyd yn ddiweddar mae Albert [Werther] (Théâtre des Champs-Elysées), Nick Carraway [The Great Gatsby] (Staatsoper Dresden), Don Giovanni (Opera Nantes), Marcello [La Bohème] (Washington National Opera), Fritz [Die Tote Stadt] (Nantes a Nancy), ynghyd â Nardo [La finta giardiniera] a Demetrius [A Midsummer Night’s Dream] (y ddau yn Aix-en-Provence), Eddie yn Greek, a Ned Keene [Peter Grimes]. Mae John yr un mor frwd dros ganu celfydd a bydd yn dychwelyd i Wigmore Hall y tymor yma yn dilyn datganiad cyntaf llwyddiannus yn 2013.

Ymhlith uchafbwyntiau tymor 2016-7 mae rhan y Conte [Le nozze di Figaro] gydag Opera Philadelphia, Nick Carraway (Dresden) a dychwelyd at rôl Billy Budd yn Berlin. Yn y dyfodol bydd yn chwarae rhannau mawr yn Glyndebourne, Teatro Real Madrid, Teatro Municipal Santiago a’r Bayerische Staatsoper Munich.

Repertoire

Main prize repConcert 3
Va tacito e nascostoGiulio CesareHandel
L’orage s’est calmé … O Nadir, tendre amiLes pêcheurs de perlesBizet
Cruda, funesta smania … La pietade in suo favoreLucia di LammermoorDonizetti
Song prizeRecital
At the riverOld American SongsLowry arr.Copland
Simple giftsOld American SongsBrackett arr.Copland
L’invitation au voyageDuparc
DichterliebeOp 48 Nos 1-6Schumann
Song prize final
Nacht und TräumeD827Schubert
Auf der BruckD853Schubert
Sind es Schmerzen, sind es Freuden Die schöne MageloneOp 33 No 3Brahms
Heimliche AufforderungOp 27 No 3R Strauss
Wer hat’s getan?R Strauss