Anush Hovhannisyan
Soprano o Armenia, 30 oed
Astudiodd Anush ganu yn Ysgol Gerddoriaeth Wladwriaethol Yerevan ac yn y Royal Conservatoire yn yr Alban. Yng Nghystadleuaeth Stella Maris 2016 enillodd y Wobr Gyntaf a’r Wobr Gyhoeddus, yn ogystal â chontract recordio prawf gyda Deutsche Grammophon.
Enillodd Wobr Gŵyl Gerddoriaeth y Flwyddyn Newydd yn Gstaad hefyd yn y 2016 Concours International de Belcanto Vincenzo Bellini, a Chystadleuaeth 2014 Concours Suisse Ernst Haefliger. Yn Artist Samling, roedd yn aelod hefyd o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, gan gael cyfle i weithio gydag arweinwyr mawr yn cynnwys Semyon Bychkov, Gianluigi Gelmetti, Nicola Luisotti, Daniel Oren, Mark Wigglesworth, Esa-Pekka Salonen ac Antonio Pappano.
Mae gwaith Anush yn y gorffennol wedi cynnwys y brif ran yn Maria Stuarda yn y Stadttheater Klagenfurt, Sitâ [Le Roi de Lahore] i’r Chelsea Opera Group, Donna Elvira [Don Giovanni] yn y Teatro Verdi, Trieste, ac Anitra [Peer Gynt] gyda Cherddorfa’r Philharmonia.
Ymhlith ei recordiadau mae caneuon gan Glinka i gwmni Vivat a chaneuon gan Scriabin i Decca. Mae hi’n edrych ymlaen at ganu gyda chwmni Opera’r Alban am y tro cyntaf yn 2017/2018 yn rhan Violetta [La traviata].
Repertoire
| Main prize rep | Concert 4 | |
|---|---|---|
| Più lunga cura … Ah! Nell’ansio rapimento | Sardanapalo | Liszt ed./orch.Trippett |
| Nun eilt herbei | Die lustigen Weiber von Windsor | Nicolai |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| I’vidi in terra angelici costumi | 3 Petrarch Sonnets No 3 | Liszt |
| Yearning | Abrahamyan | |
| The nymph | Op 56 No 1 | Rimsky-Korsakov |
| Lonely moon | Songs for the Fairytale Princess No 1 | Szymanowski |


