Main content
Tocynnau £5 BBC NOW i fyfyrwyr a phobl ifanc dan 26 oed
Gallwch archebu faint fynnwch o docynnau £5 ar gyfer rhai digwyddiadau arbennig iawn.
Ydych chi’n fyfyriwr neu’n 26 oed neu’n iau? Manteisiwch ar gynnig arbennig BBC NOW am docynnau £5 i’n holl leoliadau!
Sut i Archebu
Ar gyfer cyngherddau yn Neuadd Hoddinott y BBC ac yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd: archebwch yn y lleoliad, dros y ffôn (02920 878444) neu ar-lein yn swyddfa docynnau Neuadd Dewi Sant.
Gallwch weld ein cyngherddau sydd ar y gweill y tymor hwn yn ein dyddiadur cyngherddau.
Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae’r Gerddorfa’n ei wneud ar y cyfryngau cymdeithasol:
Facebook @BBCNationalOrchestraOfWales
Twitter @BBCNOWCymraeg@BBCNOW
Instagram @_bbcnow


