Barnokhon Ismatullaeva
Soprano o Uzbekistan, 25 oed
Ganwyd Barnokhon yn ardal Makhamat Andizhan yng Ngweriniaeth Uzbekistan yn 1991. Graddiodd o ysgol gerddoriaeth gan chwarae’r piano a gorffennodd ei gradd Meistr gan Ysgol Gerddoriaeth Wladwriaethol Uzbekistan yn 2015. Enillodd Wobr Nikhol, sef gwobr genedlaethol Uzbekistan i berfformwyr ifanc, yn 2010. Yn 2012 enillodd Barnokhon y wobr gyntaf a diploma am y perfformiad gorau o Ave Maria yn y gystadleuaeth ryngwladol i gantorion ym Moscow 2012. Bu’n unawdydd hefyd yn Theatr y Bolshoi yn Navoi yng Ngweriniaeth Uzbekistan.
Rhwng 2014 a 2016 canodd Barnokhon yng Ngŵyl Gerddoriaeth Ryngwladol Krasnoyarsk, rhanbarth Asia-Môr Tawel, enillodd wobr gyntaf yn y “Competizione dell’opera” yn Tashkent a chafodd wahoddiad i ganu unawd yn Theatr Mariinsky yn Vladivostok. Ers 2016 mae’n unawdydd yn Theatr Gerddoriaeth Academaidd Stanislavsky a Nemirovich-Danchenko ym Moscow.
Mae Barnokhon wedi cydweithio gyda phrif gerddorfeydd Gweriniaeth Uzbekistan a thros y byd i gyd, gan ganu yn Requiem Verdi, Carmina Burana gan Orff, 4 Cân Olaf Strauss a 14eg Symffoni Shostakovich. Mae ei rolau opera wedi cynnwys Mimi, Musetta (La Bohème), Nedda (I Pagliacci), Violetta (La Traviata), Leonora (Il Trovatore), Tatiana (Eugene Onegin), Lisa (The Queen of Spades) a phrif rolau Madame Butterfly, Turandot, Iolanta a Jenufa.
Repertoire
| Main prize rep | Concert 4 | |
|---|---|---|
| Dich, teure Halle | Tannhäuser | Wagner |
| De cet affreux combat ... Pleurez! pleurez, mes yeux! | Le Cid | Massenet |
| Principessa, l’amore! … Tu che di gel sei cinta | Turandot | Puccini |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| Tell me, what in the shade of the branches? | Op 57 No 1 | Tchaikovsky |
| Amore e morte | Soirées d’automne à l’Infrascata | Donizetti |
| To forget so soon | Tchaikovsky | |
| Widmung | Op 25 No 1 | Schumann |
| Pariro’yim | Jalil |


