Main content

Batjargal Bayarsaikhan

Tenor o Fongolia, 27 oed

English

Ganwyd Batjargal yn Ulanbator ac astudiodd ganu ym Mhrifysgol Celfyddydau a Diwylliant Gwladwriaeth Mongolia.

Ers 2012, ef yw prif unawdydd Theatr Opera a Bale Academaidd Gwladwriaeth Mongolia. Perfformiodd ran Jose (Carmen) yn llwyddiannus pan oedd yn 23 oed yn y Theatr Opera a Bale. Mae hefyd wedi perfformio rhannau Manrico (Il Trovatore); Alfredo (La Traviata); Edgardo (Lucia Di Lammermoor), Vladimir Igorevich (Prince Igor) a Jamukh (Chinggis Khaan – opera Mongolaidd gan Sharav).

Mae Batjargal wedi perfformio hefyd mewn Cyngerdd Gala yn Theatr y Bolshoi ym Moscow, Rwsia, yn 2014 ac mewn cyngherddau gala amrywiol yn Japan, Corea, Rwsia, Awstria a Ffrainc.

Yn y dyfodol bydd yn perfformio Pinkerton (Madame Butterfly) a Rodolfo (La Bohème). Enillodd sawl gwobr mewn cystadlaethau rhyngwladol gan gynnwys y Grand Prix ym mhumed Cystadleuaeth Unawdwyr Rhyngwladol K. Bazarsadaev yn 2015, trydedd wobr yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Opera Baikal 2015, gwobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Gerddoriaeth a Lleisiol Ryngwladol Sharav Byambasuren yn 2016 a thrydedd wobr yng Nghystadleuaeth Ganu Rhyngwladol Muslim Magomaev yn 2016.

Repertoire

Main prizeConcert 1
Che gelida maninaLa bohèmePuccini
Ah! mes amisLa fille du régimentDonizetti
Tombe degli … Fra poco a me ricoveroLucia di LammermoorDonizetti
Song prizeRecital
Sonin KhangaiSharav
Core’ngratoCardillo
Do not sing, my beautyOp 4 No 4Rachmaninov