Roberto Lorenzi
Bas bariton o'r Eidal, 27 oed
Graddiodd Roberto o Sefydliad Astudiaethau Cerddorol Luigi Boccherini yn Lucca, yr Eidal, a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn La Scala yn 22 oed yng nghynhyrchiad clodwiw Zeffirelli o La Bohème, mewn cast o sêr yn cynnwys Anna Netrebko ac Angela Gheorghiu. Mae bellach yn astudio gyda’r athro canu Americanaidd enwog, Sherman Lowe.
Yn 2013 cymerodd Roberto ran ym mhrosiect Cantorion Ifanc Gŵyl Salzburg ac wedyn ymunodd ag Opernhaus Zürich lle mae’n aelod o’r ensemble ar hyn o bryd. Mae ei rolau yn Zürich yn cynnwys Lorenzo [I Capuleti e i Montecchi], La Vengeance [Medée], Montano [Otello] and Caronte [Orlando Paladino].
Y tymor diwethaf rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn y Concertgebouw, Amsterdam fel Priore. Yn Zürich ef oedd Don Prudenzio mewn cynhyrchiad newydd o Il Viaggio a Reims, bu’n Le Gouverneur yn Le Comte Ory ochr yn ochr â Cecilia Bartoli; Zuniga yn Carmen, a Publio yn La Clemenza di Tito.
Y tymor hwn gwnaeth ei berfformiad cyntaf gydag Opéra de Lille fel Alidoro yn La Cenerentola. Enillodd Roberto wobr gyntaf yng nghystadleuaeth AsLico i gantorion ifanc yn Ewrop, gan ennill rhan Don Basilio yn Il barbiere di Siviglia mewn cynhyrchiad arbennig yn Lombardi.
Repertoire
| Main prize | Concert 1 | |
|---|---|---|
| Madamina, il catalogo è questo | Don Giovanni | Mozart |
| Vi ravviso, o luoghi ameni … Tu non sai | La sonnambula | Bellini |
| La calunnia | Il barbiere di Siviglia | Rossini |
| Song prize | Recital | |
|---|---|---|
| Der Musikant | Eichendorff-Lieder No 2 | Wolf |
| Das Ständchen | Eichendorff-Lieder No 4 | Wolf |
| Verschwiegene Liebe | Eichendorff-Lieder No 3 | Wolf |
| Il traditor deluso | D902 No 2 | Schubert |
| Non t’amo più! | Tosti |


