Main content

Lilly Jørstad

Mezzo soprano o Norwy, 31 oed

English

Ganwyd y mezzo-soprano Lilly Jørstad yn Astrakhan, Rwsia, a dechreuodd ganu yn bedair oed. Symudodd gyda’i theulu i Norwy pan oedd yn ei harddegau a gorffennodd ei gradd Meistr ym Mhrifysgol Trømso yn 2012.

Yn ystod yr haf hwnnw gwnaeth ei pherfformiad cyntaf fel Marchesa Melibea (Il viaggio a Reims) gyda’r Academia Rossiniana yn Pesaro ac ymddangosodd fel unawdydd yn Academi Mariinsky yn St Petersburg. Yn 2015 ymunodd â’r Academy La Scala yn Milan a rhoi ei pherfformiad cyntaf trwy ganu rhan Rosina (Il barbiere di Siviglia) yn La Scala.

Mae Lilly wedi ennill sawl gwobr mewn cystadlaethau rhyngwladol gan gynnwys gwobr gyntaf yn y Concorso Internazionale di Portofino. Mae perfformiadau diweddar ac i’r dyfodol yn cynnwys Rosina yn y Teatro Argentina yn Rhufain, yn Bergen ac yn y Wiener Staatsoper, Angelina (Cenerentola) yn La Scala, Siebel (Faust) yn yr Opernhaus, Zürich, Meg mewn cynhyrchiad newydd o Falstaff yn Vienna, a Smeton [Anna Bolena] yn y Teatro Nacional yn Lisbon. Ym Mai 2016 canodd am y tro cyntaf yn 80fed Gŵyl Maggio Fiorentino.

Yn ystod haf 2017 bydd Lilly’n teithio gyda Zubin Mehta i ganu yn 9fed Symffoni Beethoven. Bydd hefyd yn Cenerentola [Stuttgart] ac yn Il Barbiere di Siviglia [Opera Wladwriaethol Bafaria].

Repertoire

Main prizeConcert 1
Qu’entends-je?... Amour, viens rendre à mon âmeOrphée et EurydiceGluck
Dopo l’oscuro nemboAdelson e SalviniBellini
Sein wir wieder gutAriadne auf NaxosR Strauss
Song prizeRecital
Dans la nuitLes feuilles blessées No 5Hahn
À ChlorisHahn
Zur RosenzeitOp 48 No 5Grieg
Ein TraumOp 48 No 6Grieg
Jeg elsker dig!Op 5 No 3Grieg
Peine d’amourDelibes
Les filles de CadixDelibes