Main content

Dominic Barberi

Bas o Loegr, 28 oed

English

Graddiodd Dominic gyda Rhagoriaeth yn ei Radd Meistr Perfformio yn Royal Conservatoire yr Alban yn 2014, wedi astudio yno dan Stephen Robertson.

Ar ôl graddio gweithiodd gydag Opera North am flwyddyn cyn ymuno â Stiwdio Opera Rhyngwladol Staatsoper Berlin, gyda chefnogaeth hael Sefydliad Cerddoriaeth Liz Mohn. Mae’r rolau a chwaraeodd wedi cynnwys Pietro (Simon Boccanegra) a Barone Douphol (La Traviata) dan faton Daniel Barenboim a Tom (Un Ballo in Maschera). Ymhlith uchafbwyntiau tymor 2016-17 mae rôl Sarastro (Die Zauberflöte) a Colline (La Bohème).

Mae Dominic wedi ymddangos ledled gwledydd Prydain fel unawdydd gwadd mewn gweithiau’n cynnwys Meseia Handel, A Child of our Time Tippet, Y Greadigaeth Haydn, Requiem Mozart, Stabat Mater Dvořákac Eleias Mendelssohn.

Yn 2017-18 ymhlith prosiectau eraill mae’n edrych ymlaen yn arbennig at ganu mewn cyfansoddiad newydd: Oratorio Luther gan Daniel Pacitti yn y Berlin Philarmonie, ac ymgymryd â rôl Alvise Badoero yn La Gioconda yn y Tiroler Landestheater Innsbruck.

Repertoire

Main prize repConcert 4
Leave me, loathsome lightSemeleHandel
Vous qui faites l’endormieFaustGounod
Vecchia zimarraLa bohèmePuccini
Si, morir ella de! ... Ombre di mia prosapiaLa GiocondaPonchielli
Song prizeRecital
Dream valley3 songs of William Blake Op 20 No 12Quilter
Gruppe aus dem TartarusD583Schubert
Der TambourMörike-Lieder No 5Wolf
Alles endet, was entstehetMichelangelo Lieder No 2Wolf
The foggy, foggy dewTrad arr Britten