Main content

"Da ni'n son am bum mil ar hugain y mis a dio ddim yn gynaliadwy ar hynny" - Wil Williams

Trwy gydol mis Chwefror mae na ymgyrch yn cael ei chynnal i godi ymwybyddiaeth am y diwydiant llaeth ac yn ceisio annog mwy o bobl i brynu cynnyrch llaeth.
FEbru-dairy ydi enw'r ymgyrch - sydd wedi bod yn cael ei gynnal ers wyth mlynedd bellach.

Ond does dim modd dianc rhag problemau'r diwydiant ar hyn o bryd yn sgil gostyngiad mawr yn y pris mae ffermwyr yn ei gael am eu llefrith.
A mae un ffermwr llaeth o Fôn, Wil Williams o Landdeusant wedi deud wrth raglen y Post Prynhawn ei fod wedi gweld gostyngiad o 16 ceiniog y litr ers mis Awst y llynedd. Mae hynny'n gyfateb i golled incwm o bum mil ar hugain o bunnau'r mis i'r fferm y mae'n redeg gyda'i ddau fab.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

5 o funudau