Main content
Cyhoeddi cân i lansio Cronfa Annette Bryn Parri
Bedwyr Bryn Parri, mab y diweddar Annette Bryn Parri, sydd wedi recordio fersiwn o gân arbennig er cof am ei fam. Bu farw'r cyfeilydd a'r hyfforddwr o Ddeiniolen yn 62 oed yn 2025. Mae'r gân Dagrau, sy'n defnyddio cyfeiliant a threfniant Annette, yn ffordd o lansio cronfa newydd sydd wedi'i sefydlu gan ei theulu er cof amdani er mwyn cefnogi cerddorion ifanc Cymru.





