Main content

Gwenno Hodgkins

Shân Cothi yn holi'r actores Gwenno Hodgkins am ei hatgofion cyntaf. Shân Cothi interviews actress Gwenno Hodgkins about her first memories.

Yr actores Gwenno Hodgkins sy’n sgwrsio gyda Shân Cothi am ei hatgofion cyntaf: ei chartref cyntaf yn nhŷ’r ysgol yn Nwyran; rhyddhau cwningod yr ysgol o’u caets i ganol letys ei thad; mynd trwy’r ‘ranks’ efo drama geni’r ysgol – o fod yn fugail i’r Forwyn Fair; ‘dramatics’ mawr wrth chwarae rhan Thomas Charles y Bala; cael ei hysbrydoli i fod yn actores gan Ruth Madog yn Theatr Gwynedd; arogli persawr fioled ei mam; a’r siom o beidio â chael beic i’r Nadolig ar ôl ysgrifennu at Siôn Corn. Darlledwyd yn wreiddiol ar raglen Bore Cothi, BBC Radio Cymru, fis Hydref 2025.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

19 o funudau