Beibl Anni Llŷn
Anni Llŷn, fel Bardd y Mis, yn rhannu ei balchder o groesawu’r Beibl teuluol nôl adre
Mae’r Beibl yn drwm.
“Mae’r Beibl yn blincin trwm...
...fedrai’m ei gario fo siwr Dduw...”
a’r daith ar draws y ddinas
yn ormod ar ddwy droed,
ar ddiwedd dydd,
er gwaetha maint y gymwynas,
o’r trydar i’r radio
i’r DM
i’r tecstio,
er mwyn i’r Beibl gael dod adra.
Mae’r beibl yn drwm.
Mae hi’n galw am lifft.
Ond ar ei glin mae’r horwth yn trymhau
ac inc yr enwau’n
twchu
nes llifo’n driog dros ei choesau...
Robert Roberts
Elen Clarissa Jones
Thomas John
John Palfrey
Allan
ac Ada
a’r staeniada’n
ganghenna coeden
ar hyd ei throwsus
yn ei harwain yn ôl hyd linach y Jonsus.
Mae’r Beibl yn drwm.
Mae naw gair,
ers canrif a hanner,
yn naw stôn o awdurdod
capten llong:
Robert Roberts is the true owner of this book.
Pwys wrth bwys,
adnod wrth adnod,
mae’n gwasgu ar ei chluniau...
Melldigo Cain.
Ezeciel yn bwytta’r llyfr.
Ing a chwys gwaedlyd Crist.
Y wraig wedi ei gwisgo â’r haul
a’r lleuad o dan ei thraed.
A’i thraed hitha’n binna bach,
bellach,
achos mae’r Beibl yn drwm.
Mae arogl oed yn llenwi’r car,
ond nid amser mae’n synhwyro.
Pellter.
“Boston?!”
Penllech, Tudweiliog, Llaniestyn, Lerpwl a Boston...
ac mae olion bysedd y blynyddoedd,
fu’n dal mor dynn yn y clawr
ar frig sawl ton,
yn ei wthio i lawr
eto
i wneud yn siwr ei bod yn teimlo
ei bwysau’n llawn.
Ydi, mae’r Beibl yn drwm.
Heddiw,
roedd yn rhy drwm i’w gario.
Ddoe,
roedd yn rhy drwm i beidio.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Martin Luther King
![]()
Martin Luther King Jr.
Hyd: 09:45
Mwy o glipiau Aled Hughes
![]()
Al Parr sy'n ffan mawr sci fi
Hyd: 10:02
![]()
Maethu draenogod?!
Hyd: 13:05
![]()
Morio canu yn rhoi môr o fudd
Hyd: 10:35
![]()
Dysgu nofio yn 60 oed.
Hyd: 03:58






