Main content

Llyfr adar mawr y plant Onwy Gower

50 o adar sydd i'w gweld yng Nghymru

Mae Onwy yn 10 mlwydd oed. Dyma ei llyfr cyntaf.

Sgwrs rhwng Gerallt Pennant a Onwy Gower a Ffion Gwyn yr artist.

Meddai Onwy:
“Roeddwn am ysgrifennu llyfr byddai’n apelio i blant, oherwydd dydy oedolion ddim yn deall yn hollol beth rydyn ni’n mwynhau darllen a pha ffeithiau rydyn ni am wybod!”

Mae pob aderyn gyda dwy dudalen o luniau, gan gynnwys ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu’n arbennig ar gyfer y gyfrol gan yr artist o Ogledd Cymru, Ffion Gwyn. Ceir hefyd ffeithiau megis maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab a geirfa. Bydd yn cynnwys pennill am bob aderyn, rhai wedi’u hysgrifennu gan Onwy a’i thad, Jon Gower, a rhai cerddi sy’n bodoli eisoes gan feirdd fel T. Llew Jones.

“Dechreuais wylio adar pan ges i fy minociwlars cyntaf yn 2016, ac ers hynny rwyf hefyd wedi derbyn telesgop gwych yn anrheg gan Graham, gŵr Llio Rhydderch, y delynores. Rwy’n mynd i wylio adar gyda fy nhad, yn enwedig ym Mhenclacwydd ger Llanelli, sef fy hoff le i fynd i edrych ar hwyaid a gwyddau, ac adar eraill sy’n hoffi byw yn y dŵr,” meddai Onwy. “Fy hoff aderyn yw’r sigl-di-gwt, oherwydd mae’n ddoniol i wylio gan ei fod yn siglo ei gynffon drwy’r amser. Mae Llyfr Adar Mawr y Plant yn llawn ffeithiau. Fy hoff ffaith am aderyn yw un am y robin goch. Yn yr hen ddyddiau roedd glowyr yn credu os oedden nhw’n gweld aderyn gwyllt dan ddaear byddai rhywbeth gwael yn digwydd. Gwelwyd robin goch dan ddaear tair gwaith, a bob tro fe wnaeth trychineb ddigwydd yn fuan wedyn.”

Meddai Iolo Williams:
“Ar adeg pan rydym, yn anffodus, yn colli llawer o’n geirfa byd natur yn Gymraeg, mae’r llyfr yma yn sicr yn mynd i helpu i ddod â byd yr adar yn amlwg unwaith eto. Mae hwn yn llyfr amserol tu hwnt.”

Mae Onwy Gower yn ferch i’r awdur Jon Gower. Mae Ffion Gwyn yn byw yng Nghricieth ac mae ei chelf wedi ei ysbrydoli gan natur. Olwen Fowler sydd wedi dylunio’r gyfrol hardd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau