Main content
Cloch Medi - Robat Powel
'Wyt ti'n clywed cloch Medi - yn galw
Trwy giliau'n cartrefi
A chlywed ei ‘Dere di
Yn awr cyn bod hi’n oeri?’
Arogla holl wyrddni’r glyn – cyn yr heth,
Cyn i’r rhew anhydyn
Fferru’n mêr, cyn i’r deryn
Wibio o’r nyth a’r bryniau hyn.
A llenwa o’r perllannau – y seler,
Blasa haul y dyddiau
Ir a rhithiol yn ffrwythau
Ein haf cyn i’n gaeaf gau.
Dere i weld blodau’r allt – cyn i law
Fel cân leddf ymdywallt
Ar wyneb dyn a bronnallt
A’u pwyo hwy â’i chwip hallt.
Heddiw bydd byw! Rho heibio waith – am dro,
Medi’r haul a’r afiaith
Ydyw hwn, saib ar y daith ;
Yr alaw nas ceir eilwaith.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()
Bardd Hydref 2019 - Robat Powel—Gwybodaeth
Robat Powel yw bardd Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2019.
Mwy o glipiau Robat Powell
![]()
Bardd Hydref 2019 - Robat Powel
Hyd: 08:33
Mwy o glipiau Bore Cothi
![]()
Ydi'r dafarn leol yn bwysig i chi?
Hyd: 04:19







