Main content

Diwrnod Cynta'r Tymor - cerdd Anni Llŷn

Mae hi'n fora tynnu llun.
Llun o'r 'sgidia sglein a'r sana newydd,
Penglinia glân a sgert i bob tywydd,
Llun i brofi y bu'r crys yn ei le.
Llun o'r coler sy'n crafu,
A'r 'sgwyddau ysgafn hynny.
Llun o'r gwallt 'di dynnu nôl.
Llun o'r llygaid. Llun o'r wên.
Llun i'w llorio pan yn hen.

Mae hi'n fora tynnu llun
i atgoffa dy hun, yng nghanol hyn i gyd,
mai bychan yw'r 'sgidia sglein o hyd.

Anni Llŷn

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

31 eiliad

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau 01/09/2015