Main content

Frongoch, Bala: Carchar rhyfel mewn hen waith wisgi

Roedd carchar i 2,000 o Almaenwyr a Gwyddelod y chwyldro ym mhentref gwledig Frongoch.

Heddiw, lleisiau plant yn chwarae yn Gymraeg sydd i’w clywed ar iard Ysgol Bro Tryweryn ym mhentref Frongoch ger y Bala. Ond yn 1916 fe fyddai’r lle wedi bod yn fwrlwm o Almaeneg wrth i tua 2,000 o garcharorion o’r Almaen gael eu cludo yma dros gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Adeilad carreg enfawr hen waith wisgi Frongoch oedd yn sefyll yma bryd hynny, ychydig lathenni o’r brif ffordd rhwng Trawsfynydd a’r Bala.

Mae Frongoch hefyd yn lle pwysig iawn yn hanes Iwerddon gan fod Gwyddelod oedd wedi ymladd yng Ngwrthryfel y Pasg 1916 yn Nulyn wedi eu carcharu yma hefyd am chwe mis y flwyddyn honno.

Yn y clip yma mae Einion Thomas o Archifdy Prifysgol Bangor a’r hanesydd a’r cynghorydd lleol, Elwyn Edwards, yn egluro mor bwysig oedd Frongoch yn hanes y Rhyfel Byd Cyntaf ac hefyd yn hanes Iwerddon a Chymru.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, doedd dim trefniadau ar gyfer delio gyda charcharorion rhyfel. Felly gyda thros filiwn o garcharorion wedi eu dal o fewn chwe wythnos i ddechrau’r brwydo, roedd rhaid dod o hyd i le i'w cadw, a hynny ar frys.

Un o'r llefydd gwag ddewisiwyd fel carchar oedd hen waith wisgi Frongoch oedd wedi ei sefydlu gan RJ Price o Stâd y Rhiwlas yn 1897 ar lan afon Tryweryn. Ond roedd y cwmni wedi mynd i’r wal erbyn 1910.

Roedd adeilad carreg adeilad enfawr y ddistyllfa, lle roedd haidd yn cael ei gadw ar gyfer gwneud wisgi, yn lle oer a thamp, yn berwi o lygod mawr, a'r amodau byw yn wael iawn. Roedd rhan arall y gwersyll ar y caeau gyferbyn lle roedd y carcharorion yn cysgu mewn pebyll.

Ond roedden nhw’n cael dipyn o ryddid i ddiddanu eu hunain yn y camp ac mae nifer o luniau o’r Almaenwyr yn cynnal dramâu - yn aml wedi eu gwisgo fel merched – ac yn aelodau o dimau pêl-droed ac athletau neu’n chwarae offerynnau.

Roedd rhai o’r carcharorion Almaenig yn helpu ar ffermydd lleol ac mae llun o ddau garcharor Almaenig, Rudolf a Wilhelm, yn helpu yn y cynhaeaf gwair ar fferm Eithin Fynydd yn Llanuwchllyn, ger y Bala.

Aeth yr Almaenwyr o'r gwersyll am gyfnod pan garcharwyd y Gwyddelod yma rhwng mis Mehefin a Rhagfyr 1916.

Yn Iwerddon mae’r lle’n cael ei alw’n ‘Brifysgol y Chwyldro’ neu’n ‘Brifysgol Sinn Féin’ gan fod cyfnod y Gwyddelod yno wedi hau hadau’r chwyldro a arweinwyd gan gyn garcharorion fel Michael Collins, WJ Brennan-Whitmore a Seán T. O'Kelly yno ar ôl mynd adref.

Cafodd y Gwyddelod eu rhoi i gyd gyda’i gilydd yn Frongoch ar ôl cyfnod mewn gwahanol garchardai dros Brydain. “I’r Gwyddelod roedd hynny’n fanna o’r nefoedd,” meddai Einion Thomas.

“Am y tro cyntaf roedd pawb efo’i gilydd a dyna’r rheswm mae Collins yn gallu ail-greu rhwydwaith derfysgol ar ôl mynd yn ôl i’r Iwerddon, oherwydd fod yna bobl o bob rhan o Iwerddon yno.”

Yn wahanol i’r Almaenwyr fe wrthododd y Gwyddelod weithio ar ffermydd lleol gan eu bod yn gweld hynny fel rhoi help i fyddin Prydain. Roedd drwg deimlad hefyd rhwng y carcharorion Gwyddelig a swyddogion y camp ac roedden nhw’n gwrthod cael tynnu eu lluniau yn y gwersyll.

Roedd hyn yn arbennig o wir am y rhai oedd wedi cael eu geni ym Mhrydain gan y gallen nhw gael eu consgriptio i’r fyddin meddai Einion Thomas: “Roedd ‘na amharodrwydd ofnadwy i gael eu hadnabod.

"Roedd rhai fel Collins hefyd yn amharod i gael tynnu eu lluniau am eu bod yn gwybod, unwaith eu bod nôl yn Iwerddon, y bydd yn rhaid iddyn nhw ailgychwyn ar y ffeit a doedden nhw ddim eisiau rhoi lluniau o’u hunain i’r awdurdodau Prydeinig.

Ond roedd y Gwyddelod yn fwy cyfeillgar gyda’r Cymry lleol oedd yn gweithio yno. Roedd yr ardal a’r bobl yn eu hatgoffa o’r Iwerddon ac roedden nhw’n synnu o glywed yr iaith Gymraeg mor fyw yno.

Fe gymeron nhw ddiddordeb mawr yn hyn a gofynnodd Michael Collins am eiriaduron i ddysgu’r iaith. Roedd gwersi Gwyddeleg a Chymraeg yn cael eu cynnal yn y gwersyll.

Un wnaeth eu helpu oedd bachgen ifanc o’r Bala o’r enw John Roberts oedd yn gweithio yn siop y camp. Mae recordiad o’i atgofion yn Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau.

Bu farw pedwar o’r carcharorion Almaenig yn y gwersyll a chael eu claddu ym mynwent eglwys Frongoch. Cafodd eu cyrff eu symud yn y 1960au i fynwent yr Almaenwyr yn Cannock yn Swydd Stafford. Mae Elwyn Edwards yn cofio chwarae ymysg y beddau pan oedd yn blentyn.

Tynnwyd yr hen adeilad i lawr yn y 1930au.

Ond mae cysylltiad pellach meddai Einion Thomas gan fod y safle wedi ei ddefnyddio fel lle i garafanau’r gweithwyr oedd yn boddi pentref Capel Celyn i greu cronfa ddŵr Tryweryn: “Fel mae’r Gwyddelod yn gweld Frongoch fel lle pwysig yn eu hanes cenedlaethol nhw, mi ryden ni yng Nghymru yn gweld yr ardal yne [ardal Capel Celyn a Llyn Tryweryn] yn bwysig yn adfywiad Cymru,” meddai.

“Roedd ‘na lot o Wyddelod o gwmpas, ‘dwn i ddim ddaru nhw sylweddoli’r cysylltiad â’r lle!" ychwanegodd.

Lleoliad: Ysgol Bro Tryweryn, Frongoch, Bala, Gwynedd, LL23 7NT.
Llun: Almaenwyr y tu allan i’r gwersyll yn 1916 drwy ganiatâd Archifdy Gwynedd a’r ysgol sydd ar y safle heddiw.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau