CRANNOG: Cân ysgafn 'Y Gymanfa'
CRANNOG: Cân ysgafn 'Y Gymanfa'
Un diwrnod gath Noa y neges, i adeiladu arch.
Fe ddaeth ar yr hotline o’r nefoedd felly rhaid oedd dangos cryn barch.
“Dos i gasglu pob anifail, o’r Jiraff i lygoden y maes,
Rho nhw ‘gyd yn y bâd ar orchymyn dy Dad
Ond paid, er mwyn Diawl mynd â Sais!”
“Daw wthnos o law trwm a stormydd, gorchuddier y ddaear gan fôr
Ac yna daw’r heulwen i wenu”. Ebe Noa “Dim problem, Fy Iôr!”
“Felly beth gawn ni neud am wthnos?” holodd yr Eliffant mawr
“Beth am greu côr?” medde’r mwnci, “Cael c’manfa bob nôs tan y wawr!”
Fe ddechreuon nhw ganu ar unwaith, - mas o diwn a phoenus o slow
Amhersain i’r glust ac undonog – fel nhw’n Twicyrs yn canu “Swing Low...”
Y mwya ‘ronw’n canu, yn drymach d’ath y glaw
‘Rol deugain diwrnod, medde Duw “Mae’n amser galw Taw!”
Anfonodd golomen a nodyn, yn dweud “Dewch a’r canu i ben!!”
Fe dawodd y côr, fe laciodd y glaw, a sibrydodd ‘rhen Noa “Amen!!”
Hen hanes digon ‘smala, a’r rheswm hyd at heddi
Pam sdim cymanfa i’w glywed mewn zoo,
Ac ni chlywir ‘r un anifail yn canu ......
Dewi Pws Morris
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 20/04/2014 - Crannog v Beirdd Myrddin
![]()
CRANNOG: Englyn 'Gwyrth'
Hyd: 00:09
![]()
BEIRDD MYRDDIN: Englyn 'Gwyrth'
Hyd: 00:12
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







