Main content
BEIRDD MYRDDIN: Pennill ymson wrth beiriant twll-yn-y-wal
Rho i’m y cash na ŵyr ond fi amdano,
Cash hyfryd gash a ddaeth drwy boen a chwys,
Cyn ddaw’r dyn treth at ddrws fy nhŷ i guro,
Ei dynnu’n dawel wnaf i foddio’n ‘mlys.
O gwna i’m pres i lifo megis afon
Am wythnos gron, bob diwrnod i’w fwynhau,
Pres hyfryd bres i’w wario ar ei union,
Cyn ddaw yn nos a’m cyfrif ‘di gwacau.
Bryan Stephens
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 20/04/2014 - Crannog v Beirdd Myrddin
![]()
CRANNOG: Englyn 'Gwyrth'
Hyd: 00:09
![]()
CRANNOG: Cân ysgafn 'Y Gymanfa'
Hyd: 01:14
![]()
BEIRDD MYRDDIN: Englyn 'Gwyrth'
Hyd: 00:12
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29








