Cân Ysgafn: Parti'r Staff.
Cân Ysgafn: Parti'r Staff.
Roedd Chum, ein ci nodedig, yn un ar ddiwedd mis
A rhaid oedd cynnal parti beth bynnag oedd y pris,
Aeth llu o wahoddiadau at ffrindiau yma a thraw,
Yn wir, pan ddaeth y diwrnod doedd neb am gadw draw.
Daeth rhai mewn siwt Versace a ffroge crêpe de chine,
O blith y dosbarth VIP’s roedd corgwn swanc y Cwîn.
Fe gwrddodd Chum â’r bonedd pan aeth i Cryffts rhyw dro;
Tra’n mynd am wâc ger llyn Hyde Park fe fentrodd ddweud hylô.
Roedd pethe’n mynd yn harti nes winciodd e meilord
Ar un o’r corgwn perta, gast ddel o’r enw Maud,
Dechreuodd pethe dwymo ‘rôl gêm o “hide and seek”
A gwelwyd Chum a Maud y Plas yn dawnsio “cheek to cheek”.
Fe ffromodd Dug Caeredin wrth weld ei antics hy –
Ni phallwyd dim ar nwydau Chum a suddodd ddau neu dri
O’i ddannedd blaenllym, miniog, mewn man bach digon tyner
O gorff ‘rhen foi nes cilio’n glou pob owns oedd ganddo o hyder.
Fe drodd y parti’n fedlam, yn llanast randibŵ
A daeth y cyfan oll i ben trwy ddwedyd ‘ Twdl ŵ ’,
Ond wedi’r treiffls yfflon, y sgandal a’r galanas,
Mae gan Chum ni berthnasau lu yng ngoridorau’r Palas.
Geraint Morgan
8
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 09/06/2013
![]()
Cân Ysgafn: Parti'r Staff.
Hyd: 01:09
![]()
Cân Ysgafn: Parti'r Staff.
Hyd: 01:06
![]()
Cerdd Rydd: Ysgol.
Hyd: 00:27
Mwy o glipiau Y Talwrn
![]()
Limrigau Talwrn Ysgolion Gŵyl Gerallt
Hyd: 00:50
![]()
Talwrn Nadolig - tribannau
Hyd: 01:00
![]()
Talwrn Nadolig - limrigau
Hyd: 00:53
![]()
Cyfres newydd o'r Talwrn - rhif 46
Hyd: 02:29







