Main content

Cân Ysgafn: Pawb a'i fys.

Cân Ysgafn: Pawb a'i fys.

Ma’r plant ‘ma wedi myned, yn prysur golli’r ddawn
i gynnal sgwrs arferol, a chyfathrebu’n iawn.
Yno’n eu bydoedd bychain yn syllu ar y sgrîn,
y bys sy’n gwneud y siarad, ni ddaw’r un gair o’i min.
A’i cyfrwng cymdeithasol yw tecstio’n ddi ben draw
pan sefyll eu cyfeillion ond rhyw lathen fach gerllaw?
Y geiriau a dalfyrir, llafariaid sydd ar goll,
gramadeg a chystrawen? Fe aeth y cyfan oll
i ffurfio ieithwedd newydd, un cyfoes, hylaw, slic
a’r unig fordd i’w siarad fydd d’wedyd “clic clic clic”.
Darllenant eu gwep-lyfrau, a dilyn hwn a hon
sy’n clochdar mwy na thrydar wrth roi eu holl gerbron.
A enir y babanod i’r cenedlaethau ddaw
ag eiffôn neu fwyaren yn barod yn eu llaw?

Ond yna sylweddolais mor hawdd yw syrffio’r we,
y gellir canfod popeth a sydd o dan y ne’,
i “syrffio” mewn i gariad wrth rithio llais a llun,
a hyn sy’n fendith enfawr i bawb sy’ ben ei hun.
Ac felly penderfynais mae’r ffordd i minnau mwy
yw prynu ffôn symudol a ” Googlo” gyda hwy.

Meirion Jones

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau