Main content

Cywydd: Cynnig.

“Un fach arall, efallai,
Am lwc?” Petrusodd. Pam lai?
Ymlaciodd. Estynnodd stôl
Iddo’i hun yn hamddenol.
A’r car? Câi hwnnw aros;
Suddai’n ôl i sedd y nos.
A pham lai? Tra boddai’r bar
Y dafarn ddiedifar,
Roedd o’n un ohonyn nhw’n
Gwagio’i hiraeth i’w gwrw.
Yn ei ddu byseddai’n ddall
Ei oriad. “Un fach arall?”

Huw Meirion Edwards

10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

26 eiliad