Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar BBC iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cyfrolau Almanac - O Fis i Fis, Bechgyn Drwg am Byth a Lobsgows - Cariad y Cymry at fwyd

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Mae yna dinc llenyddol gref i’r rhaglen heddiw a ninnau ar drothwy y Nadolig gyda chymaint o gyfrolau newydd wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar.

Mae Ffion yn cael cwmni pedair aelod o'r un teulu sydd wedi cyhoeddi cyfrol o'r enw 'Almanac - O Fis i Fis' - sy'n tywys y darllenydd trwy'r flwyddyn gan ddathlu pob mis am ei nodweddion unigryw.

Yna, mae Ffion yn cael cwmni'r awdur toreithiog, Llwyd Owen, sydd wedi cyhoeddi 16 o nofelau hyd yn hyn,ac mae'n sgwriso am ei nofel ddiweddaraf 'Bechgyn Drwg am Byth'.

Cyfrol arall sydd yn cael sylw yn y rhaglen ydy 'Lobsgows - Cariad y Cymry at fwyd' gan Ruth Richards a Buddug Humphreys.

Ac yna, fel dihangfa o'r byd llenyddol mae Eilir Owen Griffiths yn adolygu cyngerdd Nadoligaidd Sinfonia Cymru, sydd ar daith ar hyn o bryd gyda'r perfformwyr Patrick Rimes, Catrin Finch a Hanan Isa.

56 o funudau

Darllediadau

  • Sul 7 Rhag 202513:00
  • Llun 8 Rhag 202518:00