Dr Brython Hywel.
Beti George yn holi Dr Brython Hywel Niwrolegydd Ymgynghorol a Niwroffisiolegydd Clinigol. Beti George chats to Dr Brython Hywel, Consultant Neurologist.
Beti George yn holi Dr Brython Hywel.
Bod yn ddeintydd oedd ei uchelgais cyntaf ond ar ôl profiad gwaith yn ysbyty Glan Clwyd fe newidiodd ei feddwl, er bod meddyg ifanc yn fanno wedi dweud wrtho beidio mynd yn feddyg. Ond tydi o ddim wedi difaru anwybyddu cyngor y doctor ifanc ac erbyn hyn wedi blynyddoedd lawer o astudio a hyfforddi mae wedi cyrraedd y brig ac yn arbenigo mewn maes Niwroleg a Niwroffisioleg.
Magwyd Brython yn Llangernyw, Dyffryn Conwy.
Enillodd ei radd feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2008 cyn gweithio yng ngogledd Cymru am bedair blynedd fel meddyg iau, lle ymgymerodd â'i hyfforddiant sylfaen yn Ysbyty Glan Clwyd a hyfforddiant meddygol craidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Tra roedd yno, fe ymgeisiodd i gael hyfforddiant yn Lerpwl fel Niwrolegydd.
Ar ôl cwblhau hyfforddiant uwch yng Nghanolfan Walton – canolfan arbenigol y GIG ar gyfer Niwroleg – o 2012 i 2019, dechreuodd fel Niwrolegydd Ymgynghorol a Niwroffisiolegydd Clinigol ym mis Awst 2019.
Mae Brython bellach yn bennaeth yr adran Niwroffisioleg yng Nghanolfan Walton lle mae’n gwneud gwaith EMG ac EEG. Mae Brython hefyd yn gwneud clinigau niwroleg ac adolygiadau ward yn Ysbyty Gwynedd.
Cawn hanes difyr ei fywyd a'i waith ac mae'n dewis 4 darn o gerddoriaeth yn cynnwys Cymru, Lloegr a Llanrwst, gan Y Cyrff. Roedd tad Brython yn diwtor dosbarth ar Mark Roberts Y Cyrff yn Ysgol Dyffryn Conwy.
Darllediad diwethaf
Clip
![]()
Dr Brython Hywel yn trafod yr ymennydd
Hyd: 02:21
Cerddoriaeth a chwaraewyd
![]()
Dafydd Iwan
Pam Fod Eira Yn Wyn?
- Tri Degawd Sain (1969 - 1999) CD1.
- SAIN.
- 6.
![]()
Y Cyrff
Cymru, Lloegr A Llanrwst
- Atalnod Llawn.
- Rasal.
![]()
Edward H Dafis
Breuddwyd Roc A Rôl
- Yn Erbyn Y Ffactore.
- SAIN.
- 1.
![]()
Ciwb & Eban Elwy
Pan Fo Cyrff yn Cwrdd
- Pan Fo Cyrff yn Cwrdd (Sengl).
- 1.
Darllediadau
- Sul 23 Tach 202518:00BBC Radio Cymru
- Iau 27 Tach 202518:00BBC Radio Cymru
Podlediad
![]()
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people




