
Arddangosfa yr artist Elfyn Lewis, cyfrol newydd gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, ac adolygu dwy gyfrol ar gyfer dysgwyr
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion sy'n trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mi gawn ni glywed am arddangosfa newydd gan yr artist Elfyn Lewis a chyfieithu nofel Saesneg 'A Room Above a Shop' gan Anthony Shapland i‘r Gymraeg gan yr artist a’r llenor Esyllt Angharad Lewis.
Mae Ewan Smith ac Anne Spooner yn adolygu dwy nofelau ar gyfer Cymry Cymraeg newydd a Dr Kath Davies yn rhannu gwybodaeth am lyfrgell luniau digidol Amgueddfa Cymru.
Mae 'Ni’n Sgwennu Nawr' yn gyfrol lenyddol newydd sydd yn gasgliad o waith creadigol gan aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a gafodd ei hysbrydoli gan gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol gyda Bethan Gwanas ac Anni Llŷn. Ac yn wir, yn trafod y gyfrol gyda Ffion, mae Anni, a hefyd Mared Fflur Jones sydd wedi cyfrannu iddi.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 16 Tach 202513:00BBC Radio Cymru
- Llun 17 Tach 202518:00BBC Radio Cymru